Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn ein Gwasanaethau Gydol Oes yn gweithio i amddiffyn, eirioli a chefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae'n swydd broffesiynol, heriola gwerth chweil sydd angen pobl ymroddedig.
Rydym yn chwilio am unigolion angerddol i weithio gyda thrigolion Ceredigion ac ar eu rhan, ac rydym yn cynnig y cyfle i chi ennill cyflog tra byddwch yn dysgu, ar hyfforddeiaeth cyfnod penodol am hyd at 3 blynedd, i ennill cymhwyster proffesiynol.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf o hyfforddiant, byddwch yn cael eich talu ar gyflog Gradd 7. Ar ôl cwblhau Blwyddyn 1 yn llwyddiannus ac ennill Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol, byddwch yn symud ymlaen i Gradd 8. Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i wneud cais am swyddi Gweithiwr Cymdeithasol cymwysedig o fewn Cyngor Sir Ceredigion.Ar gwblhau eich hyfforddiant yn llwyddiannus byddwch yn gymwys i wneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol cymwys o fewn Cyngor Sir Ceredigion
Ein cynnig i chi Dan ofal Tîm Gwaith Cymdeithasol ac o dan oruchwyliaeth gweithwyr cymdeithasol cymwys a phrofiadol, byddwch yn dysgu i ymgymryd â thasgau gwaith y gofalwyr cymdeithasol. Ar y cyd â hyn byddwch yn cael eich noddi i wneud Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol drwy ein partneriaeth â'r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Ar ôl dod yn gymwys disgwylir i chi aros yng nghyflogaeth Cyngor Sir Ceredigion am dair blynedd o leiaf.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn hefyd yn cynnig ystod o fuddion i weithwyr gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwyr o 14.6%, buddion teuluol, arbedion ffordd o fyw a chymorth iechyd a lles. Mae mwy o wybodaeth am ein buddion gweithwyr eang ar gael
yma. Rydym hefyd yn credu bod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig iawn. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: gallwch ddewis gweithio gartref neu mewn lleoliad swyddfa.
- Amser hyblyg: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Mwy o wybodaeth Bydd sesiwn wybodaeth ar-lein yn cael ei chynnal dros Microsoft Teams ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn ymgeisio, a hynny ar
Ddydd Gwener, 7 Chwefror,10yb - 11yb.I archebu eich lle ar y sesiwn hon anfonwch e-bost atDysgu@Ceredigion.gov.uk Byddwch yn derbyn cadarnhad o'ch lle drwy e-bost ac anfonir gwahoddiadau ymuno y diwrnod cyn y sesiwn.
Gwybodaeth pellach I gael rhagor o wybodaeth gweler ein dogfen ganllawiauac ewch i
wefan y Brifysgol Agored.
Proses dethol: Bydd rhestr fer yn cael ei llunio a bydd yr ymgeiswyr sydd arni yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 10 Mawrth 2025.
>
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Gradd 7 hyd nes cwblhau Blwyddyn 1 yn llwyddiannus a Thystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol) >
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Gradd 8 gyda Thystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol) >
Dogfen ganllawiau Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu