Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn ein Gwasanaethau Gydol Oes yn gweithio i amddiffyn, eirioli a chefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae'n swydd broffesiynol, heriol a gwerth chweil sydd angen pobl ymroddedig.
Rydym yn chwilio am unigolion angerddol i weithio gyda thrigolion Ceredigion ac ar eu rhan, ac rydym yn cynnig y cyfle i ennill cyflog wrth i chi ddysgu, a chyflawni cymhwyster proffesiynol.
Dan ofal Tîm Gwaith Cymdeithasol ac o dan oruchwyliaeth gweithwyr cymdeithasol cymwys a phrofiadol, byddwch yn dysgu i ymgymryd â thasgau gwaith y gofalwyr cymdeithasol. Ar y cyd â hyn byddwch yn cael eich noddi i wneud Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol drwy ein partneriaeth â'r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Ar ôl dod yn gymwys disgwylir i chi aros yng nghyflogaeth Cyngor Sir Ceredigion am dair blynedd o leiaf, ac yn gyfnewid byddwch yn derbyn:
- O 27 hyd at 34 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (ynghyd ag 8 o wyliau cyhoeddus) ar sail pro rata
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hael (cyfradd cyfraniad y cyflogwr ar hyn o bryd yn 15.8%)
- Tâl uwch i deulu ac absenoldeb salwch (hyd gwasanaeth yn berthnasol)
- Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys Cynllun Seiclo i'r gwaith, Cyfraniadau ychwanegol gwirfoddol a Phrydlesu Ceir
- Cyfleuoedd Dysgu a Datblygu
- Mentrau Iechyd a Lles gan gynnwys Aelodaeth am bris gostyngol yn ein Canolfannau Hamdden lleol
- Cerdyn Siopa Disgownt (VIvup)
Bydd sesiwn wybodaeth ar-lein yn cael ei chynnal dros Microsoft Teams ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn ymgeisio, a hynny ar
Ddydd Gwener, 6 Chwefror 2026, 10yb - 11yb. I archebu eich lle ar y sesiwn hon anfonwch e-bost at Dysgu@Ceredigion.gov.uk Byddwch yn derbyn cadarnhad o'ch lle drwy e-bost ac anfonir gwahoddiadau ymuno y diwrnod cyn y sesiwn.
I gael rhagor o wybodaeth gweler y canllawiau isod ac ewch i wefan y
Brifysgol Agored.
Canllawiau Cynllun Gweithiwr Cymdeithasol dan Hyffordiant Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Blwyddyn 1) Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Blwyddyn 2 a 3) Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion Cyflog: Gradd 7 (£28,598)
Yn amodol ar gwblhau Blwyddyn Un yn foddhaol a chyflawni Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol, cyflog ar gyfer Blwyddyn Dau a Thri: Gradd 8 (£31,537 - £33,699).
Contract: Hyfforddeiaeth cyfnod penodol o hyd at dair blynedd - ar gwblhau eich hyfforddiant yn llwyddiannus byddwch yn gymwys i wneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol cymwys o fewn Cyngor Sir Ceredigion.
Proses Recriwtio: Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw:
Hanner nos ar nos Sul, 22 Chwefror 2026. Bydd rhestr fer yn cael ei llunio a bydd yr ymgeiswyr sydd arni yn cael eu gwahodd i:
- Cyflwyniad a chyfweliad i'w cynnal yn yr wythnos sy'n dechrau ar 9 Mawrth 2026
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu