Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 2070
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Social Worker
Cyflog:
£39,152 up to £47,181*
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£20.29 up to £24.46*
Oriau Contract:
37 awr yr wythnos
Dewch i ymuno â'n tîm Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Diogelu Oedolion ym Mwrdd Lleol Sir Gaerfyrddin.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol brwdfrydig a chymhellol sydd wedi ymrwymo i amddiffyn hawliau a lles oedolion sydd mewn perygl yn ein cymuned. Os ydych yn ffynnu mewn amgylchedd deinamig, amlasiantaethol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, hoffem glywed gennych. Fel rhan o'r tîm, byddwch yn:
- Cydweithio ag asiantaethau partner i amddiffyn oedolion rhag camdriniaeth, esgeulustod a niwed
- Gweithio'n uniongyrchol ag oedolion mewn perygl, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed
- Rheoli achosion diogelu yn effeithiol ac yn effeithlon
- Cyfrannu at ddiwylliant tîm cefnogol sy'n canolbwyntio ar welliant parhaus ac eiriolaeth
Bydd gennych:
- Cymhwyster proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol (e.e. BA, MA neu gyfwerth)
- Sgiliau cyfathrebu a gwneud penderfyniadau cryf
- Ymroddiad i ddiogelu, cydraddoldeb a hawliau dynol
- Brwdfrydedd i ddatblygu'n broffesiynol o fewn tîm cynhwysol a deinamig
Beth Rydym yn Ei Gynnig
- Cyflog sy'n dechrau ar Radd I, gyda chyfle i symud ymlaen i Radd J
- Cyfle i ennill profiad gwerthfawr o fewn fframwaith amlasiantaethol
- Cefnogaeth rheolwyr a mynediad at baneli datblygiad proffesiynol
Barod i wneud gwahaniaeth? Gwnewch gais nawr a byddwch yn rhan o dîm lle mae eich angerdd yn cwrdd â phwrpas.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Rachel Field ar 01267 228991
rfield@carmarthenshire.gov.uk
* Mae dilyniant y tu hwnt i bwynt cyflog £40,221, hyd at uchafswm o £44,428 yn amodol ar asesiad panel dilyniant o dan 'Fframwaith Dilyniant Ymarferydd Profiadol Gwaith Cymdeithasol' yr Awdurdod**
**Fframwaith Dilyniant Ymarferydd Profiadol
Mae'r 'Fframwaith' yn cydnabod Gweithwyr Cymdeithasol sydd wedi cwblhau eu rhaglen atgyfnerthu, ac sy'n ymgymryd ag ymarfer gwaith cymdeithasol cymhleth yn rheolaidd. Mae hefyd yn cydnabod y Gweithwyr Cymdeithasol hynny sy'n ymgymryd ag ymchwil a rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Parhaus ôl-gymhwyso perthnasol, a allai gynnwys bod yn Addysgwr Ymarfer sydd â myfyrwyr yn eu hail flwyddyn a'u trydedd flwyddyn, neu feddu ar drwydded Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ac ymarfer yn yr Awdurdod.
Disgrifiad Swydd:
014165.pdf - 303KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 08/09/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.