Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Gweithwyr Cymdeithasol - Tîm Un Pwynt Mynediad - Plant G09 £37,035 - £39,513 y flwyddyn
Y Tîm Un Pwynt Mynediad plant yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr adran gan dderbyn ceisiadau am wybodaeth, a rhoi cyngor a chymorth i gefnogi plant a theuluoedd ac ymchwilio i bryderon diogelu. Tîm aml asiantaeth yw Un Pwynt Mynediad sydd yn dod â gweithwyr allweddol ynghyd er mwyn rhannu gwybodaeth yn gynnar i gefnogi teuluoedd ac i ddiogelu plant. Caiff hyn ei gyflawni trwy gasglu gwybodaeth gan asiantaethau gwahanol er mwyn dylanwadu ar ymyraethau i gyflawni'r canlyniadau gorau i blant. Mae Gweithwyr Cymdeithasol a Rheolwyr Un Pwynt Mynediad angen sgiliau cyfathrebu ardderchog, profiad perthnasol, yn ogystal â chymhelliant ac angerdd i gefnogi teuluoedd a gwella canlyniadau i blant. Fe fydd disgwyl i chi ymateb i anghenion plant a'u teuluoedd o fewn canllawiau, polisïau a safonau statudol, gan sicrhau fod eu diogelwch a'u lles yn hollbwysig. Yn gyfnewid rydym yn cynnig, • Gorchwyliaeth a chefnogaeth gadarn • Mynediad i hyfforddiant parhaus achyfleoedd datblygiad proffesiynol • Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan gynnwys gweithio hyblyg a gweithio ystwyth • Amgylchedd swyddfa cynllun agored ar ei newydd wedd gyda chyfleusterau rhagorol • Cynllun pensiwm Llywodreaeth Lleol. • Gwasanaeth iechyd galwedigaethol • Themau seiclo i'r gwaith. I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Kate Brooks neu Einir Davies, Rheolwyr Tîm ar 01978 292039 neu e-bostiwch kate.brooks@wrexham.gov.uk neu Einir.davies@wrexham.gov.uk Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon. Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed. Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.