Oriau gwaith: 32.5 Oriau
Math o gontract: Parhaol, Rhan Amser
Lleoliad: Cartref Preswyl Browdawel
Tîm: Gwasanaethau Darparwyr
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £23,191 - £24,719 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Oes gennych chi angerdd am weithio ym maes gofal, ac ydych chi’n ddibynadwy ac yn frwdfrydig?
Ydych chi’n ystyried eich hun yn ‘aderyn y nos’? Mae Cartref Preswyl Browdawel yn chwilio am Gynorthwyydd Gofal Nos i weithio 4 noson un wythnos a 3 noson yr wythnos wedyn ar batrwm gwaith treigl, dros unrhyw 7 diwrnod yr wythnos, i ddarparu gofal personol, a chymorth emosiynol ac ymarferol i bobl hŷn mewn amgylchedd sy'n darparu awyrgylch cartrefol gan sicrhau bod hawliau, annibyniaeth a lles pobl yn cael eu cynorthwyo a'u cynnal.
Byddai profiad o weithio gydag oedolion hŷn yn fuddiol, er nad yw'n hanfodol. Rhaid bod gennych chi wybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o safon, e.e. urddas a dewis. Rhaid i chi allu cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, meddu ar ddealltwriaeth glir o natur sensitif a chyfrinachol y swydd a bod yn gwrtais ac yn ymatebol i anghenion unigolion.
Mae'r swydd hon am 27 awr 45 munud bob 2 wythnos. Wythnos 1 – 37 Awr / Wythnos 2 – 37 awr 15 munud
Bydd yr oriau hyn yn cael eu gweithio yn ôl trefn rota Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am yr oriau sydd ar gael, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio gan ddefnyddio'r manylion wedi'u darparu isod.
Mae'n hanfodol bod ymgeiswyr yn meddu ar/yn gweithio tuag at Lefel 2 mewn gofal (NVQ 2, gynt), neu'n barod i gyflawni'r cymhwyster o fewn amserlen benodedig.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Gwybodaeth am ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Y gallu i weithio mewn partneriaeth â phreswylwyr, gofalwyr a theuluoedd.
- Profiad o weithio fel rhan o dîm.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Jennifer Daye ar 01495 225773 neu dayej@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.