Ni yw un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal, a dymunwn i chi ymuno â'n tîm cyfeillgar a chlos wrth sicrhau y diogelir Dinasyddion ag Anableddau Corfforol, Namau ar y Synhwyrau neu Anableddau Dysgu a'u bod yn cael profiad esmwyth wrth weithio â'r Timau Anabledd a Phobl Hŷn.
Yn y swydd hon cewch gyfle i weithio fel aelod pwysig o dîm cludiant sefydlog ac uchel ei barch. Bydd eich cydweithwyr yn eich cefnogi a'ch mentora bob cam o'r ffordd wrth i chi ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau er mwyn galluogi pobl ag anableddau i fyw bywyd i'r eithaf nawr ac yn y dyfodol a gwneud pob diwrnod yn ddifyr, gwahanol a gwerth chweil.
Buddion: - Fe fyddwch yn gweithio fel rhan o dîm cyfeillgar a chefnogol - Cyflwyniad llawn wrth ddechrau yn y rôl - Cefnogaeth a goruchwyliaeth gan eich rheolwr yn rheolaidd - Mynediad at hyfforddiant drwy raglenni hyfforddi Gofal Cymdeithasol a Chorfforaethol, ac fe fyddwch yn cael eich annog i ddatblygu a dysgu gyda ni.
Byddwch yn elwa ar becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff, yn cynnwys cynllun aberthu cyflog i brynu car, Beicio i'r Gwaith, gofal iechyd arian-yn-ôl, gostyngiadau a llawer mwy.
Siaradwch â ni: Byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs gyda chi os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu er mwyn i chi ddod i'n hadnabod ni a'r rôl yn well, ffoniwch Dawn Meek, Rheolwr Gwasanaeth - Busnes, Perfformiad a Chyllid, 01492 575750 dawn.meek@conwy.gov.uk
neu Chris Phillips, Rheolwr Adain -Perfformiad a Chyllid - 01492 574734 Chris.phillips1@conwy.gov.uk
Os yw'r swydd a'r lleoliad at eich dant chi, cliciwch i wneud cais rŵan.
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr