Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod i weithio fel aelod o dim i sicrhau awyrgylch mor gartrefol a phosib i drigolion mewn cartref i bobl hŷn. Y prif ddyletswyddau fydd sicrhau bod y Cartref yn lan, cynnes a chyfforddus, ac i ofalu am les gorfforol ac emosiynol y trigolion.
Dylai deilydd y swydd feddu ar natur gyfrifol ac aeddfed. Disgwylir i'r person fod ag agwedd sensitif tuag at anghenion y trigolion ac yn parchu eu preifatrwydd. Bydd profiad a chymhwyster ym maes gofal yn fanteisiol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i raglan hyfforddi yr Adran.
Gofynnir i bawb sy'n cael rhestr fer am gyfweliad ymgeisio am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu Gwahardd
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu a Mrs Carys Owen, Rheolwr Cartref Preswyl Plas Hedd, Maesgeirchen. Bangor. Gwynedd. (Ffon: 01248 351827)
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon. LL55 1SH. Rhif Ffon 01286 679076.
DYDDIAD CAU: *24/04/2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais NEU lythyr. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Oedolion, Iechyd a Llesiant cywir.pdf
Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Bod yn berson amyneddgar gyda dealltwriaeth o broblemau ac anghenion gwahanol ddefnydwyr gwasanaeth.
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol Trwydded yrru Ian dosbarth B(D1 os wedi pasio prawf gyrru ar ol 1/1/97).Bod
dros 20 oed
Dymunol Tystysgrif Cymorth Cyntaf.
Profiad perthnasol Hanfodol -
Dymunol Profiad o waith cyffelyb neu yrru cerbydau o faint bws mini neu fwy.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol -
Dymunol -
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Sicrhau bod y deffiyddwyr gwasanaeth yn cael eu cludo yn ddiogel ac yn gyfforddus.
• Sicrhau bod y cerbyd yn cael ei gynnal a'i gadw yn lân ac yn ddiogel.
• Sicrhau Iles corfforol ac emosiynol y defnyddwyr gwasanaeth.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer -
Prif ddyletswyddau • Sicrhau bod y cerbyd yn ddiogel i fynd ar y ffordd ac yn cydymffurfio gyda'r holl reoliadau lechyd a Diogelwch a'r gofynion cyfreithiol cyn mynd â'r cerbyd ar y ffordd.
• Sicrhau y perchir urddas ac annibyniaeth defnyddwyr y gwasanaeth drwy arferion gofal da. Bod yn sensitif i'r angen am barchu hawliau yr unigolyn ar bob achlysur.
• Bod yn ran o'r broses gynllunio ac adolygu rhaglenni'r unigol defnyddwyr y gwasanaeth.
• Cadw a pharchu cyfrinachedd yr holl ddefryddwyr gwasanaeth a gweithrediadau'r Adran.
• Sicrhau bod y cerbyd yn lân a diogel a bod ganddo yr holl ddogfennau cywir ar ddechrau pob dydd. Adrodd am unrhyw ddiffygion i 'r Rheolwr Llinell.
• Casglu a chludo defnyddwyr gwasanaeth i ac o'u cartrefi i'r Canolfannau Dydd.
• Cynorthwyo'r defnyddwyr gwasanaeth ar ddechrau a diwedd eu siwrnai gan gynnwys Ilwytho a dadlwytho cadeiriau olwyn, cymhorthion, codi defnyddwyr gwasanaeth ac ati.
• Yn gyfrifol am les y defnyddwyr gwasanaeth bob amser gan ddatblygu perthynas ofalu broffesiynol gyda'r defnyddwyr gwasanaeth er hybu eu lles, annibyniaeth a'u cysur
• Gweithredu fel cyswllt cyntaf rhwng y defnyddwyr gwasanaeth a'r gwasanaethau perthnasol (e.e. Rheolwr Atebol, Gweithwyr Cymdeithasol, Rhieni) gan adrodd am eu gofynion a'u cyflwr.
• Ymgymryd â'r holl hyfforddiant sydd yn gysylltiedig gyda'r cerbyd a chludo defnyddwyr gwasanaeth yn ddiogel
• Ymgymryd â'r holl hyfforddiant sydd yn gysylltiedig gyda lechyd a Diogelwch ac ymgymryd â dyletswyddau cymhorthydd cymorth cyntaf i 'r defnyddwyr gwasanaeth.
• Gyrru unrhyw gerbyd adrannol fel bo'r gofyn gan gynnwys gwirio cerbydau yn gyffredinol, gwaith cynnal a chadw cyffredinol a glanhau.
• Pan nad yw'r ymgymryd â gwaith cludo bydd y dyletswyddau yn cynnwys cymryd rhan mewn dyletswyddau cyffredinol yn y Ganolfan Dydd fel a ystyrir yn addas gan y goruchwyliwr fel cynorthwyo defryddwyr gwasanaeth yn ystod cyñod gwaith yn y sefydliad ac yn ystod gwibdeithiau neu ar negesydd.
• Ni ddylid ystyried y rhestr yma o dasgau fel rhestr gyflawn gan y gall y tasgau amrywio yn unol â gofynion y defryddwyr gwasanaeth ar y pryd.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig -
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr