Neidio i'r prif gynnwys

Gyrrwr Danfon Nwyddau - Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol

Dyddiad cau 12/03/2026

Cyflogwr

Cyngor Sir Benfro / Pembrokeshire County Council

Lleoliad

  • Sir Benfro
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Rhan Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithredwr / Gweithiwr Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

Disgrifiad o'r swydd

Rydym yn chwilio am yrrwr danfon nwyddau i ymuno â'n tîm yn y Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol, sydd wedi'i leoli ar Ystad Ddiwydiannol Honeyborough, Neyland.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddosbarthu cymhorthion a chyfarpar meddygol i storfeydd lloeren yn Sir Benfro. Yn ogystal, disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus helpu gyda thasgau yn y warws, gan gynnwys trefnu, cydosod a dihalogi cyfarpar. Mae'r rôl hon am 25.5 awr yr wythnos, gyda hyblygrwydd o ran sut mae'r oriau hynny'n cael eu rhannu dros ein hwythnos waith o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.