Y cwsmer yw canolbwynt holl waith busnes Vision Products. Rydyn ni'n darparu offer newydd ac offer sydd wedi'u hadnewyddu i'r gymuned leol.
Ar hyn o bryd rydyn ni am recriwtio Gyrrwr/Gosodwr Nwyddau i ymuno â'n Gwasanaeth Offer yn y Gymuned sy'n darparu gwasanaeth dosbarthu/casglu proffesiynol ac effeithlon.
Bydd angen i chi feddu ar drwydded yrru lawn y DU a bydd y Cyngor yn darparu cerbyd i chi ymgymryd â'ch dyletswyddau.
Bydd cyfrifoldebau'n cynnwys:
- Sicrhau bod yr offer a'r wybodaeth gywir sydd wedi'u nodi ar y gwaith papur neu'r ddyfais law yn cael eu trosglwyddo i'r cwsmer.
- Llwytho offer a nwyddau i gerbydau ac oddi arnyn nhw mewn modd cywir a diogel
- Gosod a chyfarwyddo'r offer yn ddiogel
- Gweithredu prosesau fel gosod cod bar yn gywir a chofnodi profion yn electronig gan ddefnyddio dyfais symudol neu ddyfais law.
- Cwblhau taflenni cofnodi cerbydau a dogfennau cerbydau a theithiau eraill yn gywir yn ôl y gofyn.
- Darparu lefel wych o wasanaeth i gwsmeriaid.
Ar sail rota, fe fydd gofyn i chi fod yn rhan o ddarpariaeth gwasanaeth torri i lawr ac atgyweirio y tu allan i oriau gwaith.
Mae Vision Products yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal, sy'n ymroi i feithrin gweithle cynhwysol ac amrywiol.
Rydyn ni'n croesawu ac yn annog unigolion sydd ag anableddau i gyflwyno cais am ein swyddi, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu addasiadau rhesymol ac amgylchedd cefnogol yn ystod y broses recriwtio a chyfnod y swydd. Os oes gyda chi unrhyw anghenion penodol yn ystod y broses gyfweld, rhowch wybod i ni a byddwn ni'n gweithio gyda chi i'w diwallu. Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth parhaus i'ch helpu chi i ragori yn eich swydd, gan gynnwys cyfarfodydd un-i-un rheolaidd, adolygiadau cyflawniad, a mesurau cymorth eraill. Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol sy'n meithrin llwyddiant pob un o'n gweithwyr.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd, cysylltwch â Fay Richards: (
Fay.Richards@rctcbc.gov.uk) neu (01443) 229988.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe’ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.