Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Dros dro
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
G04 £24,790 - £25,183 pro rata 25 awr yr wythnos
42 wythnos y flwyddyn Dros dro am 12 mis Yn gweithio o'r Canolfannau Teulu Gwahoddir ceisiadau i'r swydd uchod fydd wedi'i lleoli'n bennaf yng Nghanolfan Deulu Idwal ond yn barod i weithio yn ôl yr angen yn y ddwy Ganolfan Deulu. Mae'r swydd am 25 awr yr wythnos, 42 wythnos o'r flwyddyn, ond telir wythnosau ychwanegol ar gyfer gwyliau. Mae angen i ddeiliad y swydd fod yn llawn cymhelliant, yn ddisgybledig, yn ddibynadwy, yn drefnus, yn bwyllog, yn gyfathrebwr da ac yn rhywun y gellir ymddiried ynddo ac a fydd yn ffynnu mewn rôl amrywiol iawn. Byddwch yn aelod gwerthfawr o Dîm Dechrau'n Deg a strwythur ehangach y Canolfannau Teulu. Yn eich rôl fel gyrrwr byddwch yn helpu plant sy'n agored i niwed a'u teuluoedd i gael mynediad i'r Canolfannau Teulu a byddwch hefyd yn paratoi pryd o fwyd syml, maethlon i'r plant sy'n mynychu'r grŵp dechrau'n deg. Byddwch yn cyfrannu at redeg y Ganolfan yn esmwyth drwy sicrhau bod iechyd a diogelwch yn cael eu cynnal a bod asesiadau a gwiriadau risg yn cael eu gwneud. Mae angen o leiaf 5 TGAU ar Radd C neu uwch (neu gyfwerth). Mae'r gallu i siarad Gymraeg yn ddymunol. Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol. Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster hylendid bwyd lefel 2 neu uwch neu'r parodrwydd a'r gallu i ymgymryd â hyn cyn gynted â phosibl. I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Julie Williams, Rheolwr Dros Dro Canolfannau Teulu - 01978 295670. Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon. Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed. Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.