Swydd Dros Dro :- Cyfle datblygiadol i ddilyn llwybr gyrfa yn y maes Gofal Cymdeithasol. Mae posibilrwydd i unigolion gwblhau cymwysterau, gradd ac ennill profiadau amrywiol i weithio tuag at rôl mewn Rheoli Gofal, dod yn Weithiwr Cymdeithasol neu'n Therapydd Galwedigaethol. Bydd swydd wedi'i warantu ar gyfer tair blynedd cyntaf cynllun yr Academi a bydd cefnogaeth ar gael yn dilyn y dair blynedd i ddilyn llwybr datblygiadol.
Cyflog:- Mae pwynt 3 yn gyfwerth i £24,027 y flwyddyn. Pwynt cychwynnol yw'r pwynt cyflog hysbysebir yma. Bydd eich cyflog yn cynyddu wrth i chi ddatblygu drwy Academi Gofal Gwynedd i adlewyrchu cyfrifoldeb ac wrth i feini prawf cymwyseddau gael eu taro.
Mae Academi Gofal Gwynedd yn cynnig cyfle cyffrous i chi ddatblygu eich gyrfa ym maes Gofal Cymdeithasol, gan ddewis y llwybr sydd fwyaf addas i chi.
Yn agored i unrhyw un sy'n 17 oed neu'n hŷn, gallwch ennill cyflog wrth ddysgu yn ogystal â chael cymorth, hyfforddiant ac arweiniad ar hyd y daith.
Gyda llwybrau amrywiol drwy'r Academi Gofal, p'un a ydych yn chwilio am rôl mewn Rheoli Gofal, dod yn Weithiwr Cymdeithasol neu'n Therapydd Galwedigaethol, mae posibilrwydd datblygu drwy'r academi i rôl sy'n addas i chi. Mae'r sector bob amser angen aelodau tîm brwdfrydig i gefnogi pobl ledled Gwynedd. Mae c yfleoedd ar gael yn ein timau Plant, Oedolion ac Anableddau Dysgu
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwenno Williams ar 01286 679026
Cyfweliadau:- 03.02.2025
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 23.01.2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
NODWEDDION PERSONOL HANFODOL Cyfeillgar, allblyg ag yn barod i ymgymryd a hyfforddiant Y gallu i weithio fel rhan o dîm aml-ddisgyblaeth Bod yn berson sensitif, ymroddedig gonest a dibynadwy gyda'r gallu i weithredu mewn modd sy'n parchu hawliau'r unigolyn bob amser Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dîm Person cydwybodol, creadigol, emosiynol a person pwyllog pan yn delio gyda unigolion. Bod yn gadarnhaol ac yn angerddol Yn gallu gwrando a pharchu syniadau eraill, er na fyddwch yn cytuno Yn gallu defnyddio'ch dychymyg i gysylltu'n emosiynol ag eraill Gwerthfawrogi gallu'r unigolyn Gallu gwneud y gorau o'r amser y mae'n rhaid i chi gysylltu yn gadarnhaol a'r unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth Yn gallu adnabod a chefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau gwahanol Yn gallu gwerthfawrogi a pharchu sgiliau a phersonoliaethau eraill Y gallu i fod yn hyblyg Dangos agwedd broffesiynol gyfeillgar
DYMUNOL -
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL HANFODOL -TGAU iaith Cymraeg neu Saesneg C neu gyfwerth
DYMUNOL -TGAU Mathemateg C neu gyfwerth - Rhaid cael erbyn diwedd eu 3 blwyddyn ar yr Academi, bydd cefnogaeth ar gael.
PROFIAD PERTHNASOL HANFODOL -
DYMUNOL -
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL HANFODOL Meddu a'r sgiliau rhyngbersonol da Sgiliau cyfathrebu da
DYMUNOL -
ANGHENION IEITHYDDOL HANFODOL Gwrando a Siarad - Lefel Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg
Darllen a Deall - Lefel Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd. •Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. •Helpu yr unigolyn i fyw eu bywyd fel mae'n dymuno ei fyw.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer •Dysgu sut i wneud defnydd priodol o offer arbennigol sy'n helpu yr unigolyn fyw eu bywyd yn ol eu dymuniadau ac amcanion personol. Bydd hyn yn cynnwys adrodd ar ddiffygion a dilyn protocolau ymarfer a hyfforddiant arbenigol yn ôl yr angen.
Prif Ddyletswyddau. •Cyfnod cychwynnol (8 wythnos) - cwblhau e-ddysgu, gwneud hyfforddiant mandadol e.e. symud a thrin a cwblhau cyfnodau o brofiad Gwaith o fewn anableddau Dysgu, oedolion a plant - pythefnos yn bob lleoliad. •Ymgymryd â rhaglen ddatblygu sy'n arwain at gwblhau Fframwaith Sefydlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru Gyfan a chyflawni'r holl gymwysterau perthnasol wrth i chi symud ymlaen. •n arwain at gwblhau cymhwyster lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion neu Plant a Phobl Ifanc lefel 3. •Bod yn rhan o dîm, lle rydych chi'n dysgu am weithio mewn amgylchedd gofal, gan gynnwys iechyd a diogelwch, cyfle cyfartal, urddas, parch ac yn dysgu sut i wneud cysylltiadau â phobl eraill. A cael cyfle i dderbyn goruchwyliaeth a mentora gan staff profiadol. •Cydweithio'n agos dan oruchwyliaeth gyda partneriaid mewnol ac allanol I gael y canlyniadau gorau i'r defnyddwyr gwasanaeth e.e. Gweithwyr Cymdeithasol, nyrsys, therapyddion galwedigaethol, meddygon teulu ayyb. •Mynychu cyfarfodydd goruchwyliaeth, cyfarfodydd tîm, a diwrnodau hyfforddi i ddatblygu a chyfrannu at lwyddiant y tîm. •Gweithio tuag at sefydlu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth helpu oedolion a phlant i gadw eu hannibyniaeth, gan sicrhau bod eu hanghenion gofal a chefnogaeth yn cael eu diwallu'n ddiogel. Hynny wrth hyrwyddo lles, iechyd, datblygiad, diogelwch, cydraddoldeb, cynhwysiant a pharchu amrywiaeth. •Datblygu sgiliau adeiladu perthnasoedd efo defnyddwyr i ddeall yn union beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth i'w bywydau nhw ac i rymuso llais yr unigolyn ar bob cyfle. •Dangos empathi, gofal, a dealltwriaeth o ran anghenion arbenigol a chymhleth y bobl rydych yn gofalu amdanynt ac yn cefnogi. •Cadw at holl bolisïau a gweithdrefnau'r Cyngor gan gynnwys deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, Diogelu a chyfrinachedd. •Datblygu sgiliau i gynnig gofal o safon uchel gan sicrhau fod anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol defnyddwyr yn cael eu cwrdd. •Gweithio tuag at cynnig holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â gwaith gofal gan gynnwys gofal personol a cefnogi'r unigolion sydd yn defnyddio'r gwasanaeth. •Gweithredu a defnyddio Systemau TG •Pasio pob carreg filltir er mwyn gallu parhau i lefel nesaf Rhaglen yr Academi. •Cael agwedd bositif tuag at Dysgu a Datblygu sgiliau a Gwybodaeth ar hyd y daith. •Datblygu sgiliau fel bod modd bod yn eiriolwr I bobl I sicrhau bod eu hawliau a'u dewisiadau unigol yn cael eu parchu. •O dan oruchwyliaeth bydd gofyn I chi gofnodi dogfennaeth berthnasol yn gywir ac yn gyfreithlon sy'n cyfrannu at ffeil gofal y defnyddiwr gwasanaeth. Bydd angen sicrhau cydymffriaeth â'r Safonau Gofal Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn ac arferion Gwaith da. O dan oruchwyliaeth bydd gofyn i chi gadw cofnodion priodol, paratoi adroddiadau, a chymryd rhan mewn cyfarfodydd cyflawniad plant i sicrhau bod y rhieni'n cymryd cymaint o ran â phosibl yn y ganolfan ac yn y cartref. •Dod I ddeall am y drefn Feddyginiaeth, gan ymgymryd ag hyfforddiant I'w ddeall •Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru - Beth yw cofrestru? | Gofal Cymdeithasol Cymru •Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad •Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor. •Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb. •Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data •Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor. •Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd. •Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b. •Bydd angen mynd trwy brosesau'r Gwasanaeth Datgelu ac Eithrio (DBS) •Bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ar ffurf rota - bydd hyn yn cynnwys penwythnosau, gyda'r nos •Disgwyliad i weithio ar draws safleoedd eraill y gwasanaeth os yw'n angenrheidiol.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr