Lleoliad gwaith: Coed Pella
Mae gwaith cymdeithasol yn newid bywydau ac mae gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol yn amrywiol ac yn werth chweil. Gwyddom fod Gweithwyr Cymdeithasol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth. Rydym yn chwilio am bobl sydd â'r profiadau bywyd, y sgiliau a'r cymhelliant i feithrin perthnasoedd â phlant, a pobl ifanc, gan weithio ochr yn ochr â nhw a'u helpu i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnynt.
Dros y ddwy flynedd fel Hyfforddai Graddedig Gwaith Cymdeithasol yng Nghonwy, byddwch yn gweithio o fewn timau gwaith cymdeithasol ac yn astudio am radd meistr ym Mhrifysgol Bangor.
Fel Hyfforddai Graddedig Gwaith Cymdeithasol yng Nghonwy, byddwch yn:
- Derbyn cyflog llawn amser, a chael eich cefnogi i ymgymryd â'r Radd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol.
- Gweithio gyda thimau gwaith cymdeithasol profiadol a chael cyfleoedd i weithio mewn gwasanaethau gwaith cymdeithasol gwahanol.
- Cael eich cefnogi a'ch rheoli gan Reolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol a Chydlynydd Dysgu Ymarfer Gwaith Cymdeithasol.
- Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn swydd barhaol fel Gweithiwr Cymdeithasol cymwysedig yng Nghonwy.
Bydd angen i chi fodloni gofynion mynediad Gwaith Cymdeithasol | Prifysgol Bangor :
- Dosbarthiad gradd 2:2 neu uwch [ neu debygol o gyflawni yn 2025 ]
- O leiaf 3 mis* (cyfwerth ag amser llawn) o brofiad perthnasol ym maes gofal cymdeithasol neu brofiad cyfwerth.
- Caiff lleoedd ar y cwrs eu cynnig yn seiliedig ar gyfweliad boddhaol gan ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf derbyn.
- Bydd angen sgiliau Cymraeg o ran siarad a gwrando.
Mae hefyd yn ofynnol i bob myfyriwr a dderbynnir ar y cwrs i ymgymryd â gwiriad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a'u bod yn gallu cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru a chynnal eu cofrestriad drwy gydol eu hastudiaethau.
Manylion yr unigolion ar gyfer trafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd: Mared Pari 01492 577669 mared.pari1@conwy.gov.uk neu Mark Rowley, 01492 577764, Mark.rowley@conwy.gov.uk
Eleni, un cyfle yn unig sydd ar gael. Oherwydd inni gael gymaint o ddiddordeb yn y swydd yma'n flaenorol, ac oherwydd ein perthynas weithiol dda gyda Prifysgol Bangor, gallem drafod ffyrdd eraill o fynychu'r cwrs yma gyda chi. Mi fyddem felly'n rhannu eich manylion gyda Rhaglen Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Bangor. Os nad ydych eisiau i hyn ddigwydd, gadewch inni wybod ogydd. Mi fydd yn ein galluogi i'ch cynorthwyo i gysidro ffyrdd gwahanol o gael mynediad i'r Cwrs MA Gwaith Cymdeithasol os nad ydych yn llwyddiannus yn y swydd yma.
I wneud cais am yr MA Gwaith Cymdeithasol yn annibynnol, dilynwch y linc isod ogydd ar gyfer yr MA Gwaith Cymdeithasol, neu am fwy o wybodaeth am y Rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol drwy Brifysgol Bangor , dilynwch y linc, neu cysylltwch a Gwenan ar g.prysor@bangor.ac.uk
Gwaith Cymdeithasol MA | Bangor University
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Mark Rowley, Rheolwr Gweithlu ( Mark.rowley@conwy.gov.uk / 01492 577764)
Gofynion y Gymraeg: Sgiliau Cymraeg o ran siarad a gwrando, yn unol â gofynion mynediad MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.
Gwaith Cymdeithasol | Prifysgol Bangor
Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.