Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithredwr / Gweithiwr Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Disgrifiad o'r swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
LLEOLIAD: Glynllifon - Caffi Hwb
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Victoria Eve Williams ar victoriaevewilliams@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 25/09/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Oedolion, Iechyd a Llesiant.pdf
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Gallu gweithio dan bwysau a gallu bod yn hunan-ddibynnol
Gallu cynnal cyfrinachedd
Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig clir a chryno.
Ymroddiad i wella ansawdd y gwasanaethau.
Gallu peidio â chynhyrfu pan fo problemau yn codi a gallu tawelu'r sefyllfa heb waethygu'r broblem.
Gallu gweithio drwy ethos Ffordd Gwynedd a rhannu'r arferion gwaith gyda staff.
Onest a dibynadwy
Gallu ymgysylltu mewn modd urddasol a pharchus gyda phawb o fewn y gwasanaethau.
Bydd yr ymgeisydd yn credu'n gryf yn hawliau'r unigolyn a'r hawl i wneud dewisiadau
Rhaid iddi/iddo fod yn berson agored a chyfeillgar
Rhaid iddo/iddi fod yn unigolyn NA FYDD yn goddef camdriniaeth o unrhyw fath a bod yn barod i hysbysu'r unigolyn priodol o fewn y gwasanaethau am hynny h.y. gweithdrefnau Diogelu
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol QCF Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol - neu gyfatebol (neu wedi ymrwymo i gwblhau'r cymhwyster mewn 12 mis)
Trwydded yrru ddilys
Dymunol Ymwybyddiaeth mewn Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol
Ymwybyddiaeth mewn Cynllunio Person-ganolog
Ymwybyddiaeth mewn Cefnogaeth Weithgar
Profiad perthnasol Hanfodol Profiad o weithio yn annibynnol ac mewn tîm.
Y gallu i ddefnyddio offer TG.
Dymunol Profiad blaenorol o swyddogaeth oruchwyliol o fewn gwasanaethau anabledd dysgu
Profiad blaenorol o gefnogi unigolion gydag anableddau dysgu
Profiad o ddilyn arferion Cefnogaeth Weithgar, a Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Y gallu i baratoi gohebiaeth ac adroddiadau angenrheidiol.
Y gallu i sefydlu a chynnal perthynas waith effeithiol gyda gweithwyr eraill, unigolion o dimau proffesiynol eraill a'r cyhoedd.
Dymunol Y gallu i gefnogi personél yn y gweithle
Gallu cynorthwyo i ddatblygu, cynllunio, trefnu a gweinyddu rhaglen gefnogaeth sy'n bodloni anghenion y pobol sydd yn derbyn cefnogaeth.
Gwybodaeth am gyfleusterau ac offer angenrheidiol i weinyddu rhaglen gefnogaeth wedi'i threfnu'n dda.
Gwybodaeth am ystod eang o weithgareddau cefnogaeth.
Gwybodaeth am weithdrefnau ac amcanion rhaglen gefnogaeth ddydd effeithiol
Gwybodaeth drylwyr o unigolion gydag anghenion cymhleth
Dealltwriaeth o Gefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol
Gwybodaeth am Gynllunio a Chyflawni Cefnogaeth Person-ganolog
Profiad o weithio o fewn y dull Cefnogaeth Weithredol o gefnogi oedolion gydag anabledd dysgu
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Hyrwyddo iechyd a llesiant drwy gefnogi cyfleoedd gwaith i oedolion ag anabledd Dysgu.
• Cefnogi'r Arweinydd i redeg a datblygu y gwasanaethau yn Glynllifon ac yn y Caffi Hwb.
• Bydd y swydd yn chwarae rhan allweddol i sicrhau fod y prosiectau Cadeiriau, PAT Testing, Cyfleoedd Gwaith Cyngor Tref Caernarfon yn rhedeg yn esmwyth gyda staff ac unigolion i gario allan y gwaith.
• Cefnogi yr arweinydd i arwain y tim i weithio drwy ethos Person Yn Ganolog, Cefnogaeth Weithgar a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol
• Agwedd bwysig o'r swydd yw i gefnogi y datblygiad prosiect cyfleoedd gwaith trwy gefnogi unigolion a chyflogwyr a gwneud y defnydd gorau o'r cyfleusterau sydd ar gael.
• Bydd gofyn i'r gweithiwr adnabod cyfleoedd newydd, a chefnogi gyda marchnata'n effeithiol, rhwydweithio a dod o hyd i ddatrysiadau arloesol.
• Drwy weithio'n agos â'r Tîm Anabledd Dysgu, adrannoedd arall y Cyngor, sefydliadau sectorau statudol, gwirfoddol a masnachol, sicrhau fod y prosiect yn adnodd bywiog, sy'n gweithredu er budd trigolion a sefydliadau lleol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Offer - Archebu, cynnal a defnyddio unrhyw offer fel yn briodol. Gall hyn gynnwys offer llaw.
• Rhannu cyfrifoldeb dros adeilad a cherbydau.
• Cyllid - rhannu cyfrifoldef dros cyllid gwasanaethau
• Staff -Rhannu cyfrifoldeb dros staff, yn cynnwys goruchwyliaethau a trefniadau salwch
Prif ddyletswyddau Gwaith Tîm
• Rhwydweithio'n effeithiol yn yr ardal leol i sicrhau nad yw gwasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau'r Prosiect yn dyblygu'n ddiangen neu'n cystadlu yn erbyn gwasanaethau sy'n bodoli yn y gymuned yn barod.
• Gallu rheoli, a dirpwyo i'r tim o weithwyr cefnogol / mentorau swydd yn Glynllifon a'r Hwb yn absenoldeb yr arweinydd.
• Monitro ac adrodd ar ddatblygiad a chynnydd unigolion drwy ddarparu adroddiadau byr a chryno, cymryd rhan mewn cyfarfodydd adolygu, adnabod lle mae diffygion gwasanaeth fel bod modd cryfhau a datblygu'r rhaglen hyfforddi
•r Arweinydd a gallu dirprwyo y gwaith paratoi a rhedeg y prosiect a safle bob dydd. Gweithio gyda'r arweinydd i gynllunio ymlaen, gwneud penderfyniadau a datblygu y gwasanaethau.
• Parodrwydd i fynychu hyfforddiant fel bo'n briodol ac edrych am hyfforddiant addas i'r staff fynychu.
• Hunan-reoli - gosod esiampl drwy fod yn rhagweithiol, yn onest ac yn gyson a thrwy gymryd cyfrifoldeb am yr hyn yr ydych yn ei wneud. Sicrhau cydymffurfiaeth gyda safonau proffesiynol.
• Mynychu a cymryd rhan ac arwain ar gyfarfodydd tîm, datblygu perthynas da a cadarnhaol gyda'r tim i gyd.
• Sicrhau fod gweinyddiaeth y gwasanaeth yn drefnus ac yn gyfredol.
• Datblygu, monitro ac adolygu'r gwasanaeth yn gyson.
• Delio, ar y cyd, a materion disgyblu mewn ymgynghoriad gyda swyddog personél.
Diogelu
• Bod yn ymwybodol o fregusrwydd y bobl yr ydych yn gweithio â hwy a bod yn ymwybodol o'r posibilrwydd o gam-drin.
• Defnyddio polisïau lleol a chenedlaethol i adnabod, cofnodi, adrodd a chymryd rhan mewn protocolau diogelu a sicrhau fod yr holl staff a gwirfoddolwyr yn ymwybodol o'r gweithdrefnau i'w dilyn.
• Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth
• Sicrhau fod urddas ac annibyniaeth yr unigolion yn cael ei barchu drwy arferion gofal da. Bod yn sensitif i'r angen i barchu hawliau'r unigolyn bob amser.
• Bod yn rhagweithiol i sicrhau fod pobl yn cael mynediad at y gweithgareddau a'r rhaglenni mwyaf addas trwy cyfleoedd Darparu ac yn allanol.
• Datblygu a darparu amgylched ble gellir ddysgu, cynnal a datblygu sgiliau.
Cynllunio Person-ganolog
• Cefnogi pobl i feddwl, cynllunio a chyflawni amcanion gwaith a datblygu eu rolau yn eu cynlluniau (Cynllun Person-ganolog)
• Bod ag agwedd Person-Ganolog er mwyn rhoi'r bobl yr ydych yn eu cefnogi yng nghanol pob penderfyniad a gweithgaredd.
Iechyd a Diogelwch
• Sicrhau lles a diogelwch cyffredinol pawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth drwy asesu unrhyw risgiau yn barhaus.
• Sicrhau cydymffurfiaeth personol a'r staff gyda rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Cyfrifoldebau Eraill
• Cynnal cyfrinachedd ar bob agwedd o weithrediad y gwasanaeth.
• Rheoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor
• Cofrestru gyda'r Cyngor Gofal yn unol â chanllawiau cenedlaethol (os oes angen)
• Ymgymryd â'r dasg o dderbyn a dosbarthu meddyginiaeth yn unol â pholisi'r Cyngor (os oes angen)
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Yr angen i weithio oriau anghymdeithasol a penwythnosau yn unol a gofynion y swydd
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr