Torfaen County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Lleoliad
Torfaen
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Math o gontract
Dros dro
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
Disgrifiad o'r swydd
SWYDD FEWNOL. Mae'r swydd yma ar gael dim ond i gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST) a weather asiantaeth sy'n gweithio i CBST ar hyn o bryd.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Cyfnod Penodol Hyd Nes 31 Mawrth 2027
18 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn font-size:12pt">Rhaglen Blynyddoedd Cynnar yw Dechrau'n Deg, wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd â phlant o dan 4 oed sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae elfennau craidd y rhaglen wedi'u tynnu o ystod o opsiynau y dangoswyd eu bod yn dylanwadu ar ganlyniadau cadarnhaol i blant a'u teuluoedd. Mae'r rhain yn cynnwys: • Gofal plant rhan-amser, o ansawdd, am ddim i blant 2-3 oed; • Gwasanaeth Uwch gan Ymwelwyr Iechyd; font-size:12pt">Mynediad at gymorth magu plant; font-size:12pt">Datblygiad Iaith Gynnar Mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar yn chwilio am 2 Weithiwr Gofal Plant â chymwysterau addas, sy'n brofiadol a brwdfrydig ar gyfer darpariaethau gofal plant Dechrau'n Deg y Blynyddoedd Cynnar - Gofal Plant yr Enfys Gwynllyw, lleoliad cyfrwng Cymraeg a Chylch Chwarae Hwyaid Bach Garnteg.
Mae un wedi'i leoli yng Ngofal Plant yr Enfys Gwynllyw, ar safle Ysgol Gymraeg Gwynllyw, Trefddyn, a'r llall wedi'i leoli yng Nghylch Chwarae Hwyaid Bach Garnteg, ar safle Ysgol Gynradd Garnteg.
Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo'r Goruchwylydd Gofal Plant i gynnig darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel yn y maes hwn. Byddwch yn rhoi cymorth ychwanegol i blant dwy flwydd oed sy'n gymwys, ac yn byw yn ardaloedd Dechrau'n Deg. Byddwch yn darparu cymorth amserol wedi'i dargedu i unrhyw blentyn sydd angen cymorth ychwanegol, gan gynllunio cymorth wedi'i dargedu, a rhoi strategaethau priodol ac effeithiol ar waith ar gyfer datblygiad plant o fewn lleoliadau gofal plant yr Awdurdod Lleol.
Rhaid bod gan ddeiliad y swydd gymhwyster perthnasol yn y Blynyddoedd Cynnar/Gofal Plant, er enghraifft NVQ Lefel 3 neu gywerth.
Rhaid bod gennych brofiad o weithio gyda phlant, yn enwedig plant 2-3 oed ag anghenion ychwanegol. Bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth gref am ddatblygiad plant, a dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i ddarparu amgylchedd dysgu o ansawdd uchel ar gyfer plant 2-3 oed.
Byddai'r gallu i siarad Cymraeg ar lefel sylfaenol yn fantais neu dylech fod yn barod i gymryd rhan yn rhaglen CAMAU Llywodraeth Cymru - Dysgu Cymraeg ar gyfer Gofal Plant/ y Blynyddoedd Cynnar.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, mae croeso i chi gysylltu ag Emma Edwards ar 07940792823.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli. font-size:12pt">Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. font-size:12pt">Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr