Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant - Cyngor Sir Penfro
Dyddiad cau 05/09/2025
Cyflogwr
Cyngor Sir Benfro / Pembrokeshire County Council
Lleoliad
Sir Benfro
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Maes gofal
Gofal plant
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Head of Children's Services
Disgrifiad o'r swydd
Mae Sir Benfro yn un o siroedd mwyaf syfrdanol a nodedig y DU, yn gartref i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy'n enwog ledled y byd a chymuned ffyniannus, glos. Er bod ein harddwch naturiol yn cynnal economi dwristiaeth lewyrchus, gan ddenu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn, mae ein sector ynni gwyrdd a glas sy'n tyfu yn helpu i bweru dyfodol cynaliadwy i'r rhanbarth.
Fel cyngor, rydym yng nghanol taith o drawsnewid i ysgogi gwelliant ledled ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu pobl a busnesau Sir Benfro yn well, heddiw ac yn y blynyddoedd i ddod.
Ar yr adeg dyngedfennol hon, rydym yn chwilio am Bennaeth Gofal Cymdeithasol Plant angerddol a blaengar i arwain ein gwasanaethau plant trwy gyfnod o arloesi, buddsoddi a newid.
Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio a darparu gwasanaeth sy'n rhoi atal ac ymyrraeth gynnar wrth wraidd ei waith. Bydd cydweithio ar draws sefydliadau a chyda phartneriaid allanol yn hanfodol yma, gan gynnwys cydweithwyr ar y byrddau iechyd a diogelu rhanbarthol, darparwyr gofal, partneriaid academaidd, sefydliadau'r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol. Ein gweledigaeth fel cyngor yw cydweithio, gwella bywydau ac felly mae ein gwasanaethau integredig wedi'u hen sefydlu. Byddwch yn rhan allweddol o system sy'n deall pwysigrwydd clir gweithio ochr yn ochr â phlant a theuluoedd i'w helpu i fod yn ddiogel, yn saff, yn hapus ac i ffynnu.
Mae hon yn rôl uchel ei phroffil, gyda chefnogaeth gref ar draws y sefydliad. Felly, rydym yn chwilio am arweinydd â gwerthoedd yn ei lywio, sy'n mabwysiadu dull sy'n adeiladu ar gydberthnasau, ac sydd wedi ymrwymo i wneud pethau'n wahanol. Bydd angen i chi fod yn ystwyth, yn dreiddiol, ac yn hyderus wrth lywio cymhlethdod a risg, gan ddod â dealltwriaeth ddofn o'r ffactorau sy'n sbarduno'r galw am wasanaethau plant, a dawn i gyfuno meddwl mewn modd arloesol â rheoli adnoddau'n ymarferol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan benaethiaid gwasanaeth profiadol a chymwys, yn ogystal â'r rhai sy'n barod i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich bod chi'n dod âr gwerthoedd cywir, meddylfryd cydweithredol, a'r gallu i arwain ag uniondeb a phwrpas.
Rhestr Hir Cam Cyntaf: 11eg Medi
Cyfweliadau Rhagarweiniol: 15fed a 16eg Medi
Rhestr Fer Ail Gam: 19eg Medi
Cyfweliadau Panel Terfynol: 30ain Medi a 1af Hydref
Am drafodaeth gyfrinachol, siaradwch ân partneriaid chwilio gweithredol yn GatenbySanderson: Louise Bickley (07586 715 788), Rebecca Hopkin (07827 098173) neu Seb Lowe (07464 543442).
Gwnewch gais drwy'r ddolen ganlynol: Job Page | Pembrokeshire County Council
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr