Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
G15 £63,148 - £67,058 y flwyddyn 37 awr yr wythnos, gyda gweithio'n hyblyg ar gael
Mae cyfle cyffrous o fewn gofal cymdeithasol plant i ymuno â'r uwch dîm rheoli fel Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer gofal a chymorth. Mae gofal cymdeithasol plant wedi bod ar daith i wella ers sawl blwyddyn ac yn dilyn arolwg llwyddiannus ym mis Mehefin 2022, rydym yn chwilio am bennaeth gwasanaeth sy'n gallu cefnogi cam nesaf ein taith i wella. Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol llawn ysgogiad a phrofiadol gyda thystiolaeth o rinweddau arwain i fod yn aelod allweddol o'r Uwch Dîm Rheoli. Mae'r swydd yn allweddol i gefnogi datblygiad y gwasanaeth a chymell gwelliannau. Mae gan Bennaeth y Gwasanaeth Gofal a Chymorth gyfrifoldebau technegol allweddol ar gyfer ein gwasanaethau drws ffrynt, gan gefnogi 3 tîm gwaith cymdeithasol allweddol ac arwain ein porth cyfreithiol. Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Rhian Thomas Rhian.thomas@wrexham.gov.uk Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed. Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.