Rydyn ni'n recriwtio Swyddog Adolygu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.Oriau gwaith: 37 oriau
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Canolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Rhymni
Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cefnogaeth ar draws Tîm Pobl Hŷn y Gogledd ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £30,559 - £33,366 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig iawn sy'n ymrwymedig i weithio gyda phobl hŷn.
Mae'r tîm yn darparu gwasanaethau i oedolion hŷn 65 oed a throsodd sydd ag anghenion iechyd meddwl neu iechyd corfforol, a’u gofalwyr nhw. Bydd y swydd yn golygu gweithio gydag oedolion hŷn i'w helpu nhw i ddod o hyd i ddatrysiadau priodol ar adegau o anhawster, yn ogystal ag yn y tymor hir. Bydd hefyd yn cynnwys diogelu unigolion rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Yn ogystal, bydd y rôl yn cynnwys gweithio'n agos gyda darparwyr gofal (asiantaethau gofal, cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio ac ati) a gweithwyr proffesiynol eraill (Nyrsys ardal, nyrsys Seiciatrig Cymunedol, meddygon teulu, Therapyddion Galwedigaethol ac ati).
Bydd deiliad y swydd yn cynnal adolygiadau, asesiadau lefel isel, rheoli gofal a hefyd yn cyfrannu at y rota dyletswydd yn y tîm. Mae gan y tîm ddiwylliant sefydledig o waith tîm lle mae staff yn gefnogol iawn o'i gilydd. Mae'r tîm yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol a Swyddogion Adolygu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cyfnod sefydlu strwythuredig a goruchwyliaeth ffurfiol arferol yn ogystal â goruchwyliaeth anffurfiol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) neu gymhwyster Lefel 3 cyfatebol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
- Dealltwriaeth dda o gymhwyso'r egwyddorion a’r meini prawf chymhwystra sydd wedi'u gosod yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Profiad o weithio mewn lleoliad gofal cymdeithasol
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Beth McIntrye ar 01685 846481/07879 693907 neu ebost:
MCINTB@CAERPHILLY.GOV.UK Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.