Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Malcolm Vaughan ar 01248 683023 neu drwy ebost: malcolmvaughan@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
Ebost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O'R GLOCH, 02/02/2026 Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Plant a Chefnogaeth Teuluoedd.pdf
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Gallu gweithio dan bwysau a cyrraedd trefyn amser.
Gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn uniigol
Yn ymroddedig tuag at cyflawni canlyniadau.
Yn ymroddedig i ymarfer gwrth gormesol a gwrth gwahaniaethau
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol
Diploma mewn Gwaith Prawf (Dip W)
Dymunol Tystysgrif yn ymarfer effeithiol
Cymhwyster Cynghori
Profiad perthnasol Hanfodol Profiad o weithio gyda Plant/ pobl Ifanc ac teuluoedd,
Profiad o weithio gyda unigolion a grwpiau mewn ffordd cynlluniedig
Dymunol Profiad o fynychu a/ neu paratoi addroddiadau i llysoedd
Profiad o ymgymryd dyletswyddau mewn Llysoedd Troseddol
Profiad o waith uniongyrchol gyda pobl ifanc sydd yn troseddu
Profiad o weithio gyda Gwasanaethau Cyfiawnder Troseddol Ieuenctid
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Dealltwriaeth o'r Deddfwriaeth, polisiau, a dulliau Ymarfer o fewn grwpiau defnyddwyr gwasanaeth e.e. Deddf Plant 1989,
Dealltwriaeth o Ddatblygiad Plant ac Oedolion
Y gallu i gyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar trwy'r gyfrwng Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol
Gallu i weithio mewn partneriaeth efo timau gwaith cymdeithasol eraill ac asiantaethau allanol.
Dangos amrywiaeth o sgiliau a strategaethau yn ofynnol i weithio efo pobl ifanc sydd yn troseddu mewn ffordd cynllunedig.
Dangos y gallu i adnabod problemau a gwneud penderfyniadau effeithiol.
Gallu i ddatblygu rhaglenni ymyrraeth sydd yn greadigiol a dychmygus.
Dangos gwybodaeth o'r Sustem Cyfiawnder Troseddol
Gallu cadw cofnodion achos cywir
Gallu ymgymryd asesiadau cywir a dtablygu cynlluniau ymyrraeth priodol ar sail y wybodaeth hynny.
Dymunol Gallu defnyddio TG yn effeithiol.
Anghenion ieithyddol Hanfodol Gwrando a Siarad - Lefel Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Prif egwyddor y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yw atal pobl ifanc rhag troseddu ac ail-droseddu yng Ngwynedd a Môn.
• Fel y cyfryw, mae'n gyfrifol am oruchwylio, cefnogi a monitro'r bobl ifanc hynny sy'n dod i gysylltiad, neu sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad gyda'r System Cyfiawnder Troseddol ffurfiol.
• Yngryno mae rôl yRheolwr Achosyn golyguysgwyddo'r cyfrifoldebrheoli achosioncyffredinol amorchmynion llysstatudola ddyrannwyd. Byddhyn yn ssicrhaubod pob asesiada chysylltiadyn cael eu cynnalyn unolâ'r Safonau Cenedlaethola bod holl cyfeiriadauyn cael eu gwneudiwasanaethau a nodwyd yn dilyn Asesiad
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Goruchwyliaeth/Arweiniad: gan Reolwr Gweithredol y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid (Tim Rheoli Achos).
• Bydd deilydd y swydd yn cael mynediad i staff cymorth
• Fel gweithiwr i Gyngor Gwynedd bydd gan deilydd y swydd hawl i wneud defnydd o gar GCI Gwynedd a Môn.
Prif ddyletswyddau • Bod yn gyfrifol am Reoli achosion Gorchmynion Statudol a sicrhau bod goruchwyliaeth a chyswllt yn digwydd yn unol â Safonau Cenedlaethol Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Chanllawiau Rheoli achosion
• Datblygu a darparu rhaglenni creadigol ac arloesol gan gynnwys rhaglenni gweithgarwch grwp gyda'r nod o gefnogi ac annog plant a phobl ifanc rhag aildroseddu
• Sicrhau bod holl asesiadau ac ymyriadau gyda pobl ifanc sy'n destun gorchmynion Llys Statudol yn cael eu cwblhau yn unol â'r Safonau Cenedlaethol Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Canllawiau Rheoli Achosion ac Elfennau Allweddol Ymarfer Effeithiol. Yn ogystal â chadw at y Safonau Cenedlaethol dylai pob Asesiad ac Ymyriad cael eu cwblhau i safon ansawdd uchel.
• I weithredu fel cynrychiolydd a llysgennad ar gyfer y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd aml-asiantaeth berthnasol pan fo angen
• Cynrychioli'r GCI yn Llysoedd lleol Ieuenctid, Ynadon a'r Goron i sicrhau gwasanaeth prydlon / effeithiol i'r Llysoedd mewn perthynas ag anghenion pobl ifanc sy'n troseddu yn ymddangos yn y Llys
• Gweithio mewn partneriaeth gyda phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd a sicrhau bod y rhai hynny yn y sustem Cyfiawnder Ieuenctid gerbron llysoedd ieuenctid / goron / yn y ddalfa yn cael eu cynghori yn briodol / cefnogi / cynrychioli a eu hawliau yn cael eu diogelu.
• Gweithredu fel cynrychiolydd y sustem rota ddyletswydd GCI, mynychu dyletswyddau Oedolyn Priodol ac yn y llys Remand pan fo angen.
• Darparu'r llysoedd gydag Adroddiadau Cyn Dedfrydu os gofynnir am hynny, neu adroddiadau / gwybodaeth arall yn unol â Safonau Cenedlaethol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.
• Cwblhau adroddiadau Gorchymyn Cyfeirio ar gyfer paneli Gorchymyn Cyfeirio ac mynychu paneli i ddarparu aelodau'r panel gwirfoddol gyda diweddariadau mewn perthynas â phobl ifanc sy'n destun Gorchmynion Cyfeirio
• Sicrhau bod cofnodion achos yn cael eu bwydo i mewn i Careworks yn rheolaidd a bod y cynnwys yn gywir ac yn adlewyrchu'r holl gyswllt mewn perthynas â'r person ifanc .
• Monitro canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth yn y sustem cyfiawnder ieuenctid a chynghori rheolwyr / cydweithwyr o newidiadau sydd eu hangen
• Casglu, fel yn briodol , gwybodaeth ystadegol a monitro perthnasol , at ddibenion lleol a chenedlaethol , yn ôl y gofyn
• Cyfrannu at recriwtio , hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr addas a gweithwyr sesiynol os y gofynnir
• Bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth genedlaethol a datblygiadau lleol perthnasol i droseddwyr ifanc a'r Sustem Cyfiawnder Troseddol a rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr lle bo'n berthnasol.
• Yng nghyd-destun y Tîm aml-asiantaeth, yn gweithio ochr yn ochr â chynrychiolwyr o asiantaethau eraill h.y Prawf, Heddlu, Addysg ac Iechyd, ac i gyfrannu i ddatblygiad tîm effeithiol, dysgu, proffil cyhoeddus a datblygiad o ddiwylliant cyffredin o dystiolaeth sy'n seiliedig ar ymarfer.
• Cymeryd rhan mewn cyfarfodydd tîm rheolaidd a sesiynau goruchwylio unigol.
• Bod yn gyfrifol am ddatblygiad personol a chymryd rhan mewn rhaglenni datblygu a hyfforddiant a ddarperir gan y GCI
• Hybu ac ymddwyn mewn ffordd gwrth-wahaniaethol, a gweithredu mewn modd nad yw'n ormesol tuag at gydweithwyr a defnyddwyr y gwasanaeth.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn unol â'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig • Efallai y bydd angen i weithio oriau anghymdeithasol ar adegau gan gynnwys gyda'r nos ac penwythnosau
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr