Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Rheolwr Dirpwy Cartref Gofal
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Gofynnir am geisiadau ar gyfer swydd Rheolwr Adain - Gwasanaethau a Gomisiynir llawn amser trwy benodiad cyfnod penodol neu secondiad am 12 mis.
Bydd gofyn i chi sefydlu cysylltiadau â chydweithwyr iechyd a darparwyr y Sector Annibynnol a'r Trydydd Sector ac arwain ar gyswllt a thrafodaethau effeithiol trwy'r Timau Adnoddau Cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ganlyniadau yn cael eu darparu i Bobl Hŷn yng Nghonwy.
Bydd gennych gyfrifoldeb am fod yn rheolwr atebol ac am ddatblygiad y Tîm Broceriaeth, Taliadau Uniongyrchol, y Tîm Gofal Iechyd Parhaus a'r Tîm Asesiad Ariannol a bydd disgwyl i chi arwain, monitro a gwerthuso data gweithgarwch y gwasanaeth ar gyfer yr holl wasanaethau a gomisiynir yn allanol i bobl hŷn.
Byddwch hefyd yn arwain ar oedi wrth drosglwyddo gofal o ysbytai ac ar ddatblygu a rheoli Tai Gofal Ychwanegol yng Nghonwy.
Er mai'r Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Pobl Hŷn fydd eich rheolwr atebol, byddwch hefyd yn gweithio gyda rheolwyr eraill i sicrhau bod gwasanaethau a gomisiynir ar gyfer Oedolion yng Nghonwy yn cael eu darparu a'u rheoli'n effeithiol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Marian Hankin, Rheolwr Gwasanaeth Pobl Hŷn / Gwaith Cymdeithasol Ysbyty marian.hankin@conwy.gov.uk
Bwriedir cynnal y cyfweliadau ar 5 Chwefror a'r dyddiad cychwyn fydd 16 Chwefror 2026.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Marian Hankin Rheolwr Gwasanaeth ( marian.hankin@conwy.gov.uk / 01492 575603)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr