Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Rheolwr Dirpwy Cartref Gofal
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Mae cyfle wedi codi ar gyfer swydd dros dro Rheolwr Adain y Gweithlu ar gyfer y Gwasanaeth Gweithlu, Gwasanaethau Integredig Oedolion a Chymunedol, trwy gontract cyfnod penodol/secondiad am 18 mis.
Bydd Rheolwr Adain y Gweithlu yn atebol i Reolwr Gwasanaeth y Gweithlu a bydd yn gwasanaethu fel y rheolwr arweiniol ar gyfer y gweithlu o fewn gofal cymdeithasol.
Mae'r rôl hon yn gofyn am reoli a chefnogi gweithredu strategaethau datblygu'r gweithlu ar draws gwasanaethau i blant, teuluoedd ac oedolion, gan gynnwys y rhai a gomisiynir yn allanol. Y nod yw sicrhau bod y gweithlu Gofal Cymdeithasol o faint digonol, yn fedrus, wedi'i hyfforddi, ac wedi cael gwiriadau diogelwch angenrheidiol i hyrwyddo lles unigolion ag anghenion gofal a chymorth yng Nghonwy.
Mae cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys rheoli tri thîm gweithlu:
1. Dysgu a Datblygu'r Gweithlu: Darparu rhaglenni dysgu cynhwysfawr ar draws y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys rhaglenni cymhwyso ac ôl-gymhwyso a gweithredu strategaethau cenedlaethol fel y Safonau Diogelu Cenedlaethol a Mwy na Geiriau.
2. Cymorth Busnes i'r Gweithlu: Darparu cymorth gweinyddol helaeth i reolwyr a staff gofal cymdeithasol ynghylch hyfforddiant a gwasanaethau a swyddogaethau AD.
3. Recriwtio a Chadw'r Gweithlu: Datblygu rhaglenni a gwasanaethau i gefnogi cynaliadwyedd y gweithlu ar draws y sector gofal cymdeithasol cyfan.
Bydd y rôl hefyd yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth agos â Phartneriaid Statudol, gan gynnwys Awdurdodau Lleol eraill, y Bwrdd Iechyd Lleol, Darparwyr Annibynnol, a sefydliadau'r Trydydd Sector.
Gan fod hyn yn cael ei gynnig ar sail secondiad, dylech drafod a chael caniatâd eich rheolwr cyn cyflwyno cais.
Mae dyddiad dros dro ar gyfer y cyfweliad wedi'i drefnu ar gyfer 17 Hydref 2025.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Mark Rowley, Rheolwr Gwasanaeth - Gweithlu
( Mark.rowley@conwy.gov.uk / 01492 577764 )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr