Parc Iechyd Dewi Sant, Heol Albert, Pontypridd, CF37 1LB
Dyma gyfle i benodi Rheolwr Arfer a Chyflawniad Carfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned Taf-elái. Mae'r garfan yn gweithio gydag oedolion ag anhwylderau meddwl difrifol a pharhaus a lefel o ofid meddwl sy'n treiddio pob rhan o fywyd y person ac yn cael effaith sylweddol ar ei allu i fyw ei fywyd. Mae'r garfan hefyd yn gweithio gydag oedolion ag anawsterau iechyd meddwl sy'n camddefnyddio sylweddau ar yr un pryd yn ardal Taf-elái yn Rhondda Cynon Taf.
Safle'r garfan yw Parc Iechyd Dewi Sant, Heol Albert, Pontypridd, CF37 1LB ac mae'n garfan amlddisgyblaethol sy'n cynnwys Blaen Weithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Seiciatrig Cymunedol a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, Therapyddion Galwedigaethol, Seiciatryddion a Seicolegwyr. Mae'r garfan yn rhannu lleoliad â'r Gwasanaeth Byw'n Annibynnol sy'n gweithio ledled Rhondda Cynon Taf.
Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn ymuno â charfan brofiadol a chefnogol. Rydyn ni eisiau penodi rheolwr brwdfrydig sy'n llawn cymhelliant i reoli'r garfan Gwaith Cymdeithasol a rhoi cymorth i'r garfan ehangach.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos â'r gwasanaeth iechyd a phartneriaid eraill er mwyn darparu gwasanaeth o safon i bobl sydd angen cymorth gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn ardal Taf-elái. Bydd yn deall cryfderau a heriau gweithio amlddisgyblaethol ac yn gallu darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i'r cyhoedd.
Mae ymrwymiad cryf i ddysgu arferion ac addysg yn gyffredinol yn rhan o'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyfrannu at hyn.
Bydd angen meddu ar gymhwyster perthnasol ym maes Gwaith Cymdeithasol ac mae disgwyl eich bod chi wedi'ch cofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru adeg eich penodi.
Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddyn nhw ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan uwch reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni'n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gyda'r nod o leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes Gwaith Cymdeithasol, pecyn buddion sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.
Rydyn ni'n disgwyl i'n hymarferwyr feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio yn y maes perthnasol, neu fod â diddordeb mewn gwneud hynny. Ac yntau wedi ymrói i ymarfer nad yw'n ormesol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.
Am ragor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â Rhys Gambold (Rheolwr Gwasanaeth - Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau) rhys.gambold@rctcbc.gov.uk.Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
- Cynllun buddion ar gyfer staff
- Gostyngiadau Siopa gyda cherdyn Vivup
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.