Ydych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc? Ydych chi'n unigolyn gweithgar a gwydn sydd â'r gallu i arwain carfan sy'n ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?
Rydyn ni'n bwriadu penodi Rheolwr Cofrestredig profiadol a hyderus, sy'n frwdfrydig am godi dyheadau a gweithio mewn modd sy'n ystyriol o drawma, gan ddefnyddio dulliau Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PACE) er mwyn gwella cymorth ar gyfer unigolion penodol.
A chithau'n rheolwr, bydd gyda chi o leiaf pum mlynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal preswyl i blant, a dwy ohonyn nhw ar lefel oruchwylio. Byddwch chi'n rhan o garfan ofalgar, sy'n darparu gofal preswyl a chymorth diogel, hir dymor sy'n meithrin ac yn ystyried y plant a phobl ifainc.
Byddwch chi'n ymroi i wella bywydau a chyfleoedd plant sydd ag anghenion cymhleth. Gan arwain y garfan wrth ddarparu gofal a chymorth, bydd angen i chi fod yn drefnus ac yn hyblyg i'r hyn a allai fod yn amgylchedd sy'n newid yn gyflym. Byddwch chi'n gweithio mewn modd creadigol â lefel uchel o ymgysylltu gweithredol wrth ddatblygu a chynorthwyo'r garfan, gan ddarparu goruchwyliaeth ffurfiol, gwerthusiadau a sicrhau arfer o ansawdd uchel yn y cartref. Byddwch chi'n gyfrifol am sicrhau bod y cartref yn cael ei gynnal yn unol â'r Datganiad o Ddiben, a chofrestriad RISCA.
Bydd llawer o'ch gwaith chi'n cynnwys helpu'r garfan i weithio gyda phlant a phobl ifainc mewn modd effeithiol, gyda'r nod o gynorthwyo unigolion i gyflawni eu nodau personol.
Bydd y gwaith yma'n cynnwys darparu cefnogaeth emosiynol a chorfforol sy'n caniatáu i bobl ifainc gyflawni eu potensial llawn, weithiau mewn sefyllfaoedd heriol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i weddu anghenion unigol y plant a phobl ifainc.
Bydd gan ddeiliad y swydd rôl arweiniol yn y cartref i sicrhau bod holl ofynion RISCA yn cael eu bodloni, a bod cofrestriad yn cael ei gynnal.
I lwyddo yn y rôl yma rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar, a rhaid i chi ymrwymo i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw ac i safonau proffesiynol y swydd.
A chithau'n rheolwr llawn amser, bydd angen ichi fod yn barod i weithio amrywiaeth eang o shifftiau er mwyn sicrhau trefniadau cyflenwi digonol ar gyfer y gwasanaeth. Bydd hefyd angen ichi gyfrannu at y system ar alw yn y cartref.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Cymhelliant i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel
- Dealltwriaeth glir o'r Model Adfer Trawma o ran gofal ar lefel ymarferol a damcaniaethol
- Sgiliau TG da a'r gallu i lunio a chadw cofnodion cywir a chlir
- Agwedd gadarnhaol at arwain a chefnogi carfan o staff
- Bod yn drefnus a hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
- Agwedd gadarnhaol a chydnerth
- Ymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel a gofalgar i blant a phobl ifainc sy'n eu hannog nhw i ddysgu ac i ddatblygu
- Cydymdeimlad ac empathi, a brwdfrydedd dros wneud penderfyniadau personol
- Y gallu i fuddsoddi mewn meithrin cydberthnasau sy'n llawn ymddiriedaeth â phlant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill
- Brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu
- Modd i deithio'n annibynnol
Bydd disgwyl i chi feddu ar Ddiploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc), yn ogystal â Diploma FfCCh Lefel 5 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu’n fodlon gweithio tuag at gyflawni’r cymhwyster yma. Byddwch chi ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddwch chi ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru.
Ein Cynnig i Chi Rydyn ni'n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol er mwyn i'n staff gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Bydd modd i weithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd fanteisio ar ystod eang o fuddion staff sy'n cynnwys: - 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Aelodaeth Hamdden am Oes ratach
- Cerdyn gostyngiadau i staff – Cerdyn Vectis
- Cynllun Prynu Technoleg
- Mynediad at ein Huned Iechyd Galwedigaethol a CARI, ein hofferyn lles cyfrinachol digidol newydd.
Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwasanaethau Preswyl. Gwasanaethau Preswyl i Blant | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd neu am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Mandy Meredith ar 07880044429.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.