Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Rheolwr Dirpwy Cartref Gofal
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Rheolwr Preswyl Plant
G11 £44,711 - £47,754 y flwyddyn
Llawn amser parhaol - 37 awr yr wythnos
Ydych chi'n barod i ymgymryd â rôl sy'n heriol ond yn arbennig o werth chweil?
Ydych chi'n rhywun sy'n gallu gweithio mewn amgylchedd sy'n symud yn gyflym lle mae pob diwrnod yn wahanol?
Os ydych, rydym am glywed gennych.
Mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn sy'n llawn cymhelliant, ac sy'n ymroddgar ac yn hyblyg, ymuno â'n tîm yma yng ngwasanaethau darparwyr Plant Wrecsam.
Rydym yn chwilio am rywun sydd ag angerdd a brwdfrydedd, ac sy'n gallu addasu ac arwain yn dda mewn unrhyw sefyllfa. Mae profiad mewn rôl arwain yn hanfodol, a bydd angen i chi ddangos sgiliau rheoli ac arwain cryf yn ogystal â'r gallu i'ch ysgogi eich hun a phobl eraill, weithiau yn y cyfnodau mwyaf heriol.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn sicrhau bod y cartref yn gweithredu o fewn fframweithiau cyfreithiol, yn cynnal y safonau uchaf o ofal ac yn bwysicaf oll, yn darparu amgylchedd meithringar, diogel a llawn hwyl lle gall y plant a'r bobl ifanc gyflawni eu potensial.
Bydd gennych wybodaeth am Ymlyniad a dulliau gweithredu sy'n ystyriol o drawma a byddwch yn deall sut mae trawma yn ystod plentyndod cynnar yn effeithio ar fywydau beunyddiol pobl ifanc. Byddwch yn dangos empathi a dealltwriaeth. Byddwch yn sicrhau eich bod yn fodel rôl cadarnhaol i'r tîm ac i'r bobl ifanc, ac yn meithrin amgylchedd o adferiad, dysgu a thwf.
Os oes gennych gwestiynau am y rôl, cysylltwch â Sian Hughes Sian.hughes@wrexham.gov.uk 07469441589 neu Louise Davies- Rae Louise.Davies-Rae@wrexham.gov.uk 07721112718
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.