Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1506
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran:
Teuluoedd yn Gyntaf
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd K
Cyflog:
£45,718 - £49,764
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£23.70 - £25.79
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a theuluoedd? Oes gennych chi brofiad o gomisiynu a rheoli gwasanaethau? Rydym yn chwilio am Reolwr Comisiynu i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
Bydd y Rheolwr Comisiynu yn arwain y gwaith o gynllunio a chomisiynu gwasanaethau plant, gwerthuso eu heffeithiolrwydd a'u heffeithlonrwydd cost, cydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, a goruchwylio rheolaeth grantiau i sicrhau effeithlonrwydd adnoddau a chydymffurfio ag amodau cyllido.
Rydym yn chwilio am unigolyn gyda:
- Profiad o gomisiynu
- Meddwl strategol cryf a'r gallu i werthuso gwasanaethau yn erbyn canlyniadau.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda'r gallu i gydweithio ag amrywiaeth o randdeiliaid.
- Dull sy'n cael ei yrru gan ganlyniadau, sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol ac effeithiol.
- Gwybodaeth am y Grant Plant a Chymunedau.
Pam ymuno â ni:Mae hwn yn gyfle gwych i gael effaith wirioneddol ar fywydau plant a theuluoedd yn ein cymuned. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth lunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion lleol wrth sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion cyllido. Yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol, cyfleoedd datblygu proffesiynol, a'r cyfle i fod yn rhan o dîm cefnogol a blaengar.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Janine Patrick, Uwch Reolwr Comisiynu a Chynllunio ar 01267 246559.
Disgrifiad Swydd:
015547.pdf - 200KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 13/05/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.