*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Bethan Mair Davies ar 01758 613810 neu drwy e-bost: bethanmairdavies@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Sgiliau ardderchog o ddelio gyda phobl, o ran dangos parch, hiwmor ac empathi.
Proffesiynoldeb amlwg ac yn berson sydd yn ennyn parch ac ymddiredaeth eraill
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol NVQ 3 neu QCF 3Gofal/hybu annibyniaeth
Ymrwymiad I ddilyn cwrs QCF 5 gofal
Dymunol NVQ 4 neu QCF5 Gofal
Hyfforddiant Dementia
ILM 2
Profiad perthnasol Hanfodol Profiad yn y maes gofal
Dymunol Profiad o oruchwylio a gwerthuso staff
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Sgiliau gweinyddol da
Sgiliau cyfathrebu
Dymunol -
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd Bwriad y gwasanaeth:
• Cefnogi unigolion ag anableddau dysgu i fyw bywydau llawn yn y modd maent eisiau ei fyw, cefnogi i ddatblygu sgiliau a sicrhau cyfleoedd i fod yn rhan o'u cymuned.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau diogelu'r Cyngor a chyfrifoldebau Statudol. Bydd disgwyliad I I gydymffurfio a holl ofynion Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol(Cymru) 2016 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
• Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau diogelu'r Cyngor a chyfrifoldebau Statudol. Bydd disgwyliad I I gydymffurfio a holl ofynion Deddf Gofal 2016.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer Cynorthwyo'r rheolwr i sicrhau'r isod;
• Cyfrifoldeb am reoli staff a chyllid y gwasanaeth yn effeithiol.
• Cyfrifoldeb i sicrhau fod adnoddau, offer a chyfarpar a ddefnyddir mewn cyflwr da ac addas i bwrpas.
• Cyfrifoldeb am yr adeilad.
Prif ddyletswyddau • Arwain a gweithredu ar ddarparu gwasanaethau person canolog.
• Dilyn ethos Cefnogaeth Weithgar (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Active support ) a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Positive Behaviour Support ), sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion a hyrwyddo eu hannibyniaeth.
• Cefnogi unigolion i gymeryd rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau am ofal a chefnogaeth yn eu bywyd.
• Dilyn polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol i adnabod, cofnodi, adrodd a chymryd rhan mewn protocolau diogelu oedolion bregus.
• Cefnogi'r rheolwr i sicrhau fod y gwasanaeth yn cydymffurfio gydag holl ofynion safonau Gofal 2000.
• Cydweithio gyda dinasyddion a'u gofalwyr i adnabod 'Beth sy'n bwysig iddynt' a dod o hyd i ffyrdd i gwrdd ag amcanion personol.
• Grymuso llais yr unigolyn. Cefnogi unigolion i gael cefnogaeth adfocatiaeth.
• I weithredu a'r deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) a sicrhau eu bod yn cadw atynt
• Bydd rhaid cofrestru gydag CGC
• Ymrwymo i Gòd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol
• Cynorthwyo'r rheolwr mewn archwiliadau a chyd weithio gyda CIW gan ymateb ag gweithredu ar yr hyn a ddaw i sylw
ARWAIN A RHEOLI - Cynorthwyo'r rheolwr i gefnogi rhwng 30 a 50 o staff,
• Arwain y tîm, i berchnogi egwyddorion ffordd Gwynedd, ac i hyrwyddo ac annog llesiant staff
• Cefnogi i oruchwylio, gwerthuso, rhoi arweiniad, ysgogi a chynghori staff i weithio fel tîm, ac i ddilyn canllawiau a pholisiau'r Cyngor, i sicrhau y gorau i bobl Gwynedd.
• Delio a materion disgyblu mewn ymgynghoriad gyda swyddog personnel.
• Arwain ar recriwtio a phenodi staff addas ar gyfer y gwasanaeth, a sicrhau dadleniad DBS priodol
• Sicrhau fod y gwasanaeth yn gydymffurfio gyda pholisiau andoddau dynol.
• Delio gyda chwynion a chanmoliaethau, gan arwain a chynorthwyo'r broses ymchwilio.
• Cyfrifoldebau Rheolwr Safle, Iechyd a Diogelwch y gwasanaeth
• Gynorthwyo gyda chyfrifoldebau am gylllid y gwasnaeth
• Sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth yn cwrdd â'r safonau a osodir
• Cyfathrebu yn agored gydag asiantaethau, teuluoedd a phobl proffesiynol
• Cyd weithio ar ddatblygu polisiau a gweithredfnau ac adolygu polisiau perthnasol i'r gwasanaeth.
• Cydgysylltu gydag asiantaethau eraill ar ran yr Adran. Hybu gweithio mewn partneriaeth gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill ee awdurdod iechyd, a trydydd sector.
•r rheolwr i gynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau am berfformiad gwaith y tîm.
• Rhoi barn broffesiynol i eraill o fewn y gwasanaeth ar achosion.
• Cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd, ac at weithgareddau hyfforddi fel bo'n briodol.
Cyfrifoldebau eraill
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Gall y swydd olygu gweithio oriau anghymdeithasol tu allan i oriau swyddfa arferol ar adegau.
• Bydd angen cwblhau DBS, a chofrestru gyda Cyngr Gofal Cymru.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr