*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gill Paul ar 01286 679 032.
Cynnal cyfweliadau - 17/12/2025
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 08/12/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Mae'r gallu i gadw sawl project yn symud ar y tro yn hanfodol, fel y mae'r gallu i symud ffocws yn gyflym ac effeithiol er mwyn gallu cyflawni yr amrywiol dasgau. • Person sy'n croesawu newid a datblygiadau newydd gyda'r gallu i reoli tîm talentog a gwybodus, drwy roddi cyfeiriad cadarn, . • Yn barod i wrando ar sylwadau a syniadau eraill. • Yn gallu cynllunio ymlaen yn effeithiol, gan weld y 'darlun mawr' wrth wneud hynny. •n gallu gweld potensial pobl a sefyllfaoedd a gweithredu ar y weledigaeth honno.
DYMUNOL -
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gweithiwr Cymdeithasol cofrestredig - Cymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol
• Profiad yn y maes gofal a Gwaith Cymdeithasol • Profiad o reoli cyllid a/neu staff • Profiad o eistedd ar bwyllgorau sy'n weithredol a rhagweithiol • Wedi arfer cefnogi eraill i ddatblygu • Yn gyfarwydd â gwahanol rannau o'r sector gofal
DYMUNOL
• Gwybodaeth am neu brofiad o hyfforddi • Wedi cael profiad o gynrhychioli asiantaeth ar lefel genedlaethol neu ranbarthol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Dealltwriaeth o'r cefndir cenedlaethol a'r datlygiadau yn y maes hyfforddi a datblygu gweithlu'r sector gofal yn gyffredinol. •r agenda ynglŷn â rheoleiddio a chofrestru'r gweithlu gofal. • Ymwybyddiaeth o'r newidiadau mewn hyfforddiant gwaith cymdeithasol ac oblygiadau hynny i'r awdurdod. • Sgiliau cyfrifiadurol. • Sgiliau cyflwyno ffurfiol ac anffurfiol.
DYMUNOL
• Sgiliau dadansoddi anghenion hyfforddiant. • Sgiliau hyfforddi. • Gallu i ddefnyddio a deal ystadegau.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Rheoli yr Uned Datblygu Gweithlu sy'n darparu hyfforddiant a chymhwysterau i staff gofal i sicrhau fod gwasanaethau y Cyngor yn cyrraedd y Safonau Cenedlaethol.
• Rheoli Academi Gofal gwynedd yn arwain ar materion recriwtio
• Sicrhau gweithrediad effeithiol Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gwynedd, fel bod y sector Gofal Cymdeithasol gyfan yng Ngwynedd yn cael gwybodaeth a chyfleon i ddatblygu.
• Cynrychioli Gwynedd mewn fforymau cenedlaethol a rhanbarthol.
• Sicrhau fod rheolwyr o fewn y sector a'r Cyngor yn ymwybodol o newidiadau a datblygiadau, a chynnig strategaethau fydd yn eu galluogi i ymdopi a'r newidiadau hynny.
• Gwarantu cyllid yr Uned a'r sector drwy gynllun blynyddol.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Goruchwylio 10 aelod o staff.
• Cyfrifol am y gyllideb Datblygu Gweithlu yn cynnwys nifer o grantiau
• Offer hyfforddi digidol ar gyfer myfyrwyr a staff , llyfrgell, a deunyddiau eraill.
• Adrodd ar gyllidebau mae Gwynedd yn ei gweinyddu ar ran rhaglenni traws-sirol
Prif ddyletswyddau • Sicrhau cyfeiriad strategol i holl elfennau Datblygu Gweithlu yn cynnwys ystyriaeth ar faterion cyfreithiol deddfrwriaethol a polisi .
• Delio efo rhaglen waith sydd yn newid yn gyson a'r angen i newid blaenoriaethau ar fyr rybudd yn barhaus
• Cyd weithio efo'r timau ar adnabod materion hyfforddi
• Paratoi Cynllun Datblygu Gweithlu blynyddol ar ran y Bartneriaeth Datblygu Gweithlu yng Ngwynedd yn ôl gofynion Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn gallu hawlio grant Datblygu Gweithlu yn flynyddol a cyd weithio efo tim rhanbarthol ar gyfer y cais .
• Rheoli ceisiadau grantiau gwahanol , monitro a gwerthuso
• Mynychu cyfarfodydd cynllunio a monitro sy'n deillio o'r uchod.
• Arwain o fewn y sector yng Ngwynedd, rhanbarthol a cenedlaethol ar faterion datblygu gweithlu yn cynnig arbenigedd mewn gwahanol feysydd .
• Cynrychioli Gwynedd mewn cyfarfodydd lleol, rhanbarthol a cenedlaethol ar faterion amrywiol ar wahanol lefelau yn cynnwys materion ymarfer i faterion strategol polisi cenedlaethol.
• Arwain ar faterion yn ymwneud a hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol, gan gynnwys cyfleoedd ddysgu ymarfer a gweithio efo partneriaeth gytundebol efo Prifysgol Bangor a'r Brifysgol Agored ar gyrsiau gwaith cymdeithasol a chyrsiau ôl - gymhwyso.
• Sefydlu , datblygu a cynnal partneriaethau cytundebol efo sefydliadau addysgu allanol fel prifysgolion ar gyfer darpariaeth addysg penodol fel cyrsiau (AMHP , Dysgu Ymarfer ayb ) er mwyn sicrhau darpariaeth addas i'r gweithlu.
• Rheoli materion recriwtio yn y maes gofal yn cynnwys rheoli gwaith yr Academi Gofal yn cynnwys datblygu a rheoli llwybrau gyrfa ar y cyd efo iechyd .
• Rheoli gweithwyr yn gweithio ar feysydd datblygu gwahanol e.e gwaith cymdeithasol, gwaith gofal uniongyrchol , cymwysterau gofal a chymwysterau rheoli, cyrsiau proffesiynol gwaith cymdeithasol a therapi galwedigaethol, gwaith digidol yn cynnwys e ddysgu, gwaith ôl-gymhwysol gweithwyr proffesiynol , recriwtio , datblygiad rheolwyr a cynllunio'r gweithlu. Sicrhau fod pawb yn y tim yn gweithredu o fewn deddfwriaethau a polisïau perthnasol y cyngor ac yn cenedlaethol ac yn herio perfformiad yn gyson.
• Arwain neu gefnogi cyfleoedd ar gyfer cydweithio â'r gweithlu a / neu integreiddio i wella swyddogaeth a darpariaeth gwasanaeth ar draws iechyd ac asiantaethau eraill .
• Gweithio mewn ffyrdd arloesol a creadigol gyda phartneriaid rhanbarthol cenedlaethol a gwasanaethau eraill o fewn Cyngor Gwynedd ac asiantaethau eraill fel iechyd ac addysg er mwyn edrych ar ddatrysiadau i rwystrau neu ffyrdd newydd o weithio gan ddatblygu ac arwain prosiectau gwahanol yn cynnwys newid diwylliant.
• Arwain a rheoli prosiectau gwahanol ar lefel lleol, rhanbarthol a cenedlaethol. E.e. peilot meddyginiaeth gymunedol, sefydlu cynllun Cadarnhau Gwaith Cymdeithasol Cenedlaethol, ,prosiectau Strategaeth Gweithlu Rhanbarthol ayb
• Arwain efo cyd weithwyr y cyngor a'r adrannau ar yr agenda cynllunio'r gweithlu
• Cefnogi efo rheoli newid efo prosiectau a cynlluniau penodol o fewn y gwasanaeth.
• Rhoi arweiniad i weithwyr a rheolwyr efo anghenion datblygiadau timau ac unigolion .
• Cydweithio efo aelod etholedig ar faterion perthnasol i'r maes gwaith.
• Gweithio efo gwasanaethau ar ddatblygiadau trawsnewid .
• Adnabod goblygiadau i'r gweithlu sy'n deillio o newidiadau cenedlaethol mewn deddfwriaeth, polisi ac ymarferar draws gwasanaethau a sy'n effeithio ar ddarparu gwasanaethau neu'r cyngor ehangach.
• Cadeirio ac arwain ar grwpiau lleol, rhanbarthol a cenedlaethol mewn amryw o feysydd gwahanol . e.e cymwysterau , recriwtio, cyfarfodydd ar y cy defo iechyd ayb
• Cefnogi Gofal Cymdeithasol Cymru ar feysydd penodol trwy grwpiau cenedlaethol
• Cefnogi ac arwain ar ddatblygu a gwirio polisiau perthnasol e.e. Polisi Goruchwyliaeth
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
• Rhestr ddarluniol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn rhan o'r broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd a gweithredu ar unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â natur y swydd a'i graddfa yn unol â chais y Pennaeth Gwasanaeth/Rheolwr neu'r Cyfarwyddwr Strategol.
Amgylchiadau arbennig • Peth gofyn am deithio i Dde a Chanolbarth Cymru i gyfarfodydd.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr