Rheolwr Datblygu Rhanbarthol, Y Fframwaith Maethu Cenedlaethol
Dyddiad cau 25/09/2025
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
Sir Ddinbych
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Rheolwr Dirpwy Cartref Gofal
Disgrifiad o'r swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Melvin Craig Panther ar 01286682660
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 25/09/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Yn gallu ysgogi eraill i ddiwallu amcanion, mewn ffordd gefnogol
Sgiliau datrys problemau
Gwydnwch a phenderfyniad
Rhaid meddu ar drwydded yrru lawn, ddilys a defnydd o gar.
Parodrwydd i weithio tu allan i oriau swyddfa a phan fo angen.
Yn barod i deithio ar draws Cymru.
Dymunol Hyblyg mewn perthynas ag oriau gwaith.
Diddordeb mewn cynllunio pecynnau hyfforddiant perthnasol ymlaen llaw ac
i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol Gradd mewn gwaith cymdeithasol neu gymhwyster perthnasol i'r swydd
Hyfforddiant rheoli (neu dystiolaeth o gymhwysedd mewn rheoli staff)
Dymunol Cymwysterau penodol mewn perthynas â gwaith gyda phlant a phobl ifanc.
Cymhwyster rheoli.
Profiad perthnasol Hanfodol Profiad o weithio yn y Gwasanaethau Maethu
Profiad neu wybodaeth o'r materion sy'n wynebu gwasanaethau plant i Blant sy'n derbyn gofal
Profiad o ysgrifennu adroddiadau
Profiad o weithio gyda rhanddeiliaid eraill y tu allan i'r awdurdod lleol
Dealltwriaeth a gwybodaeth am Maethu Cymru
Dymunol Profiad o reoli neu gyfrannu at reoli cyllideb
Profiad ôl-gymhwyso mewn lleoliad gwaith cymdeithasol gofal plant
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Yn medru dangos ei fod yn gallu ysgogi ei hunan a'r gallu i weithio ar ei liwt ei hun yn ôl y terfynau a gytunwyd.
Y gallu i drefnu ei hun ac eraill i flaenoriaethu gwaith a chyflawni targedau.
Yn gallu ysgogi eraill.
Yn deall pwysigrwydd rheoli gwybodaeth wrth fonitro, cynllunio ac adolygu gwasanaethau.
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig gyda defnyddwyr gwasanaeth, staff, rheolwyr, asiantaethau eraill a'r cyhoedd
Yn medru galluogi defnyddwyr gwasanaeth a staff i gyfrannu at gynllunio a datblygu gwasanaethau.
Yn gallu cadeirio ystod o gyfarfodydd yn effeithiol
Sgiliau TG da ac ymrwymiad i atebion ar sail technoleg
Dymunol -
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Bod â chyfrifoldeb arweiniol am ddatblygu a gweithredu rhaglen waith ranbarthol i wasanaethau maethu
• Hyrwyddo cyflawni gwaith Maethu Cymru ar draws y rhanbarth ac ym mhob awdurdod lleol.
• Defnyddio'r fframwaith perfformiad cenedlaethol i wasanaethau maethu i gyfarwyddo a siapio blaenoriaethu rhanbarthol.
• Ymgysylltu gyda phob awdurdod lleol yn y rhanbarth i sicrhau fod y bobl allweddol yn rhan o ddatblygu a
• gweithredu'r rhaglen waith ranbarthol.
• I adrodd yn fisol i'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • -
Prif ddyletswyddau • Adrodd fel bo'r angen i'r Penaethiaid Gwasanaeth yn y rhanbarth.
• Gweithio gyda gofalwyr maeth a phobl ifanc sy'n cael eu maethu neu sydd wedi cael eu maethu, i sicrhau bod eu barn yn cael ei adlewyrchu yn y rhaglenni gwaith rhanbarthol.
• Gweithio gydag eraill i sicrhau bod awdurdodau lleol yn y rhanbarth yn cwblhau'r fframwaith perfformiad cenedlaethol.
• Bod yn rhan o'r broses o ddadansoddi gwybodaeth ranbarthol a gyfyd o'r fframwaith perfformiad cenedlaethol a llunio cynlluniau er gwella.
• Mynychu cyfarfodydd cenedlaethol Maethu Cymru i gynrychioli'r rhanbarth.
• I weithio gydag eraill Rheolwyr Rhanbarthol i lunio blaenoriaethau cenedlaethol/canolog.
• Darparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd mewn rôl orchwylio i'r swyddog marchnata rhanbarthol
• I weithio ochr yn ochr â' Gweithio gyda Phennaeth Maethu Cymru a'r rheolwr marchnata cenedlaethol.
• Cyflwyno'r Rhaglen Waith Ranbarthol i grwpiau rhanddeiliaid allweddol.
• Yn gyfrifol am y gyllideb ranbarthol, os yn briodol.
• Unrhyw ddyletswyddau eraill fel bo angen.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Parodrwydd i weithio oriau hyblyg a all gynnwys penwythnosau a nosweithiau ar adegau
• Trwydded yrru lawn
• Mae'r swydd hon wedi'i nodi fel un sy'n dod o fewn telerau'r Gorchymyn Eithriadau o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Mae hyn yn golygu, os ydych chi'n llwyddiannus yn eich cais, bydd angen i chi wneud cais am Ddatgeliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol. Bydd y Cyngor yn darparu'r ffurflen berthnasol at y diben hwn a bydd yn talu'r ffi gysylltiedig. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu pan fo angen. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd fod wedi'i gofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr