Disgrifiad Swydd Canolfan i Blant a Theuluoedd Aman, Godreaman, Aberdâr
Rydyn ni'n gobeithio penodi Rheolwr ar gyfer ein Gwasanaeth Amser i Deuluoedd prysur.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am weithredu'r gwasanaeth yn ein Canolfan Amser i Deuluoedd yng Nghwm Cynon. Dyma gyfle cyffrous i ymuno â ni wrth inni gwblhau ailstrwythuro ac adolygu'r gwasanaeth.
Byddwch chi'n goruchwylio carfan o weithwyr amser i deuluoedd, gan reoli absenoldebau a chyflawniad, hwyluso sesiynau amser i deuluoedd rhwng plant sy'n derbyn gofal a'u teuluoedd, cysylltu â charfanau gwaith cymdeithasol, asesu risg sesiynau unigol, cyflenwi sesiynau lle mae angen neu os yw'n gymhleth, cyflenwi Canolfan Amser i Deuluoedd Cwm Rhondda i gefnogi yn ystod absenoldeb staff, rheoli arian parod, gwirio ac awdurdodi recordiadau a darparu recordiadau cywir i weithwyr proffesiynol.
Mae profiad o weithio gyda phlant a theuluoedd yn hanfodol ac mae gwybodaeth sylfaenol am ddatblygiad plant yn allweddol er mwyn darparu cefnogaeth a chyngor priodol.
Bydd angen i chi hefyd fod â gwybodaeth sylfaenol o'r fframwaith cyfreithiol sy'n berthnasol i blant sy'n derbyn gofal. Mae profiad o weithio o fewn amgylchedd amser i deuluoedd dan oruchwyliaeth yn ddymunol.
Mae disgwyl bod gyda chi gymhwyster FfCCh Lefel 3 ym maes Plant a Phobl Ifainc neu'n mynd ati i ennill y cymhwyster cyn pen dwy flynedd o gael eich penodi i’r swydd yma, a bydd cymorth yn cael ei ddarparu i chi gyflawni hyn.
Mae'r swydd yma ar gael yn ein Canolfan Amser i Deuluoedd yng Nghwm Cynon, gan weithio fel rhan o garfan gefnogol sefydledig. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm. Bydd disgwyl ichi reoli'r gwasanaeth yn ystod yr oriau yma.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Matthew Free drwy e-bost: matthew.r.free@rctcbc.gov.uk i drefnu galwad.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe’ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n diwallu'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr