Rheolwr Gwasanaeth - Byw â Chymorth i Bobl ag Anableddau Dysgu - Mewnol yn Unig
Dyddiad cau 18/02/2026
Cyflogwr
Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Rheolwr Dirpwy Cartref Gofal
Disgrifiad o'r swydd
37 awr yr wythnos
Dros dro hyd at 1 Mawrth 2027
Rydym yn ceisio recriwtio unigolyn llawn cymhelliant a phrofiadol a fydd yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol ein Gwasanaethau Llety Anabledd Dysgu i bobl ag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth yn y gymuned
Bydd ffocws ar wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y person ac yn cael eu harwain gan y person; bydd disgwyl i chi ddatblygu cyfleoedd i bobl, eu teuluoedd / gofalwyr i gymryd rhan weithredol mewn prosesau ymgynghori a datblygu gwasanaethau
Bydd y rôl yn cynnwys cymryd yr awenau gyda gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod gofynion statudol a chyfeiriad strategol yn cael eu bodloni ac yn cyflawni canlyniadau sy'n cael eu llywio gan safonau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a RISCA
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y gwaith cyffredinol o reoli, arwain a datblygu rheolwyr a staff ar draws sawl safle ym mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr. Byddwch yn goruchwylio'r gwaith o recriwtio ac yn gyfrifol am ddefnyddio adnoddau'n effeithiol ar draws gwasanaethau er mwyn bodloni ein gofynion statudol
Bydd gofyniad i ymgymryd â chyfrifoldebau Rheolwr Cofrestredig gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, a monitro cydymffurfiaeth a gweithredu effeithiol ar draws gwasanaethau rheoledig; bydd cymhwyster rheoli cydnabyddedig mewn Arweinyddiaeth a Rheoli yn hanfodol.
Mae profiad helaeth o reoli gwasanaethau a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn un o ofynion hanfodol y swydd. Yn ogystal â hyn, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd fod yn rheolwr cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a meddu ar gymhwyster cydnabyddedig mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Oedolion Gwaharddedig gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae Gweithio ar Benwythnosau ac Ymateb i Argyfwng yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Chwefror 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Chwefror 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 25 Chwefror 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr