O ganlyniad i newidiadau diweddar yn y Gwasanaethau i Oedolion yn Rhondda Cynon Taf, dyma gyfle cyffrous i Reolwr Gwasanaeth dros yn y Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau.
Bydd swydd y Rheolwr Gwasanaeth yn cynnwys Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau ac yn cynnwys gwaith amlasiantaeth gyda Gwasanaethau Iechyd a Thrydydd Sector i barhau i ddatblygu ein gwasanaethau.
Dyma gyfle cyffrous i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau am ein bod ni'n ehangu ein Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol Camddefnyddio Sylweddau ar hyn o bryd a byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid iechyd mewn perthynas â darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn y Gymuned.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn ag egni, brwdfrydedd, profiad ac agwedd sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau i ymuno â'n carfan. Mae'r swydd yma yn un amrywiol ac yn cynnig cyfle gwych i rywun sy'n dymuno cynyddu ei sgiliau rheoli a'i brofiad.
Bydd y rôl yma'n canolbwyntio ar reolaeth gweithredol 3 Carfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned ac ein gwasanaeth gwaith cymdeithasol Camddefnyddio Sylweddau sy'n ehangu. Bydd yn canolbwyntio ar ddau brif faes gwasanaeth. Bydd gweithio gyda meysydd gwasanaeth eraill a sefydliadau partner, ac yn enwedig iechyd mewn ffordd gydgynhyrchiol, yn allweddol i gyflawni deilliannau cadarnhaol.
Bydd Rheolwr y Gwasanaeth yn gyfrifol am arwain a sicrhau darpariaeth gwasanaeth effeithiol, gan dargedu adnoddau mor effeithlon â phosibl i gael yr effaith fwyaf. Yn rhan o'r swydd, chi fydd yr Arweinydd Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy ar gyfer yr Awdurdod Lleol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth gadarn o ddeddfwriaeth ac arferion da, ac yn bwysicaf oll, sylfaen gwerthoedd sy'n dangos ymroddiad i ddarparu'r gorau i unigolion a chynhalwyr (gofalwyr).
Am wybodaeth fanwl a gofynion penodol, darllenwch y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person.
Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, e-bostiwch Alexandra Beckham, Pennaeth y Gwasanaeth:
alexandra.beckham@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 07384 537270 neu e-bostiwch Kate Riley:
kate.e.riley@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch on 07769 164679
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn Ymchwilio’n Fanwl i Gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe’ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.