Rheolwr Gwybodaeth a Data Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych
Dyddiad cau 03/03/2025
Cyflogwr
Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal plant
Gweithle
Cyfleusterau Crèche a Meithrinfeydd Dydd
Rôl
Manager
Disgrifiad o'r swydd
Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm a deinamig Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir.
Ddinbych Fel Rheolwr Gwybodaeth a Data
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain a rheoli Rheolaeth gwybodaeth a data o fewn Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych sy'n darparu cefnogaeth weinyddol a dadansoddol o safon uchel i'r Gwasanaeth. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd a phrofiad sylweddol o ddadansoddi data, sydd a phrofiad sylweddol o ddefnyddio rhaglenni rheolaethol ac o gyflwyno data yn effeithlon ac effeithiol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu da, sgiliau cyfathrebu da, profiad o gymwysiadau TG a phrofiad o fewnbynnu data ac adrodd yn gywir.
Byddwn yn darparu'r hyfforddiant a'r gefnogaeth angenrheidiol i chi. Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon bydd angen i chi feddu ar lefel uchel o onestrwydd, gwytnwch personol, bod yn ddigynnwrf dan bwysau a rhoi sylw manwl i fanylion.
Byddwch yn llawn cymhelliant gyda'r gallu i weithio heb oruchwyliaeth a bydd gennych agwedd gadarnhaol at ddarparu a chefnogi y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Mae angen lefel uchel o gyfrinachedd oherwydd y wybodaeth sensitif y mae'r gwasanaeth yn ymdrin â hi.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol a Cymraeg yn ddymunol.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Anest Gray Frazer, Rheolwr Gwasanaeth
( Anest.gray.frazer@conwy.gov.uk / 01492 577377 )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn lefel 1 ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr