Gradd 10 - £39,152 y flwyddyn Rydyn ni'n chwilio am
Reolwr Materion Asesu Gofal brwd sy'n llawn cymhelliant i ymuno â'n
Gwasanaeth Cymorth i bobl ifainc 14+. Gan weithio'n unol â gofynion Deddf Plant 1989, Deddf Plant (Yn Gadael Gofal) 2000 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, mae'r Garfan Cymorth i bobl ifainc 14+ yn darparu gwasanaethau i bobl ifainc ar sail Gofal a Chymorth; pobl ifainc sydd mewn gofal a'r rhai sydd wedi bod yn rhan o'r system ofal; yn ogystal â phobl ifainc sy'n ddigartref yn Rhondda Cynon Taf.
A chithau'n Rheolwr Materion Asesu Gofal yn rhan o'r gwasanaeth yma, byddwch chi'n gweithio ochr yn ochr ag aelodau eraill y garfan gan gynnwys Ymgynghorwyr Personol, Gweithwyr Cymorth, Gweithwyr Cymdeithasol a Phrif Weithwyr Cymdeithasol. Byddwch chi hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod anghenion plant yn cael eu diwallu. Byddwch chi'n rheoli eich llwyth achosion a'ch dyddiadur eich hun ond byddwch yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd gan Reolwr y Garfan yn ogystal âr garfan ehangach.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar y cyd â phobl ifainc yn y system ofal. Bydd y gwaith yn mynd i'r afael ag ystod o faterion y mae pobl ifainc yn eu hwynebu yn ystod eu cyfnod mewn gofal; wrth adael gofal; symud i annibyniaeth; rheoli tenantiaeth; mynd i'r Brifysgol ac ati. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwaith uniongyrchol a gwaith grŵp gyda phobl ifainc yn ein canolfan yn Stryd Morgan, Pontypridd yn ogystal â gweithio hybrid/gweithio gartref.
Pam gweithio i ni? Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni'n blaenoriaethu lles ein hymarferwyr, gan ddarparu cymorth, llwythi gwaith hylaw, ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ffynnu.
Rydyn ni wrthi’n cyflwyno Model Ymarfer newydd ar draws y gwasanaeth, sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd, yn gydweithredol ac yn ystyriol o drawma. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n cael mynediad at becyn hyfforddi cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n cynnwys hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol - gan gefnogi staff i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan annog sgyrsiau myfyriol gyda phobl ifanc a'u teuluoedd. Yn ogystal â rhaglen hyfforddi sy'n seiliedig ar drawma mewnol.
Mae buddion eraill yn cynnwys:
- Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg. Mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn modd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa. Ar hyn o bryd, rydyn ni hefyd yn treialu polisi gweithio hyblyg gwell yn y carfanau yma, gan ganiatáu i chi gael hyd at 2 ddiwrnod di-waith y mis!
- Mynediad i’n ‘Mannau myfyriol’ uchel eu parch sy’n cynnwys trafodaethau cydweithredol rhwng y garfan neu unigolion, wedi’u hwyluso gan seicolegydd sy’n cefnogi rhannu meddyliau, teimladau ac ymatebion i brofiadau yn y gwaith.
- Mynediad i’n Huned Iechyd Galwedigaethol a ‘Vivup’, ein Rhaglen Cymorth Cyflogeion Cwbl Gyfrinachol.
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) hael.
- Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth Hamdden am Oes ratach a cherdyn Vivup sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol gyda'r Rheolwr, cysylltwch â: Kathryn Morgan, Rheolwr y Garfan Cymorth i bobl ifainc 14+ (Gorllewin) (01443) 425006. Gwybodaeth Ychwanegol Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor. Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Yn rhan o'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.