Uned 2, Parc Busnes Hen Lofa'r Maritime, Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime, Pontypridd.Ydych chi'n barod am her newydd? Mae Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swydd Rheolwr Materion Asesu Gofal (3 diwrnod - swydd rhan amser) yn y Garfan Cymorth Prif Ffrwd.
Yn y rôl yma, byddwch chi'n gyfrifol am ddarparu cymorth hanfodol a chwblhau adolygiadau ar gyfer rhieni maeth prif ffrwd. Mae eich arbenigedd wrth gynnal asesiadau, creu cynlluniau, a chynnal adolygiadau yn werthfawr wrth i chi lywio cymhlethdodau deinamig teuluol a deall anghenion plant sydd ddim yn gallu byw gyda'u rhieni.
Byddwch chi'n rhan o wasanaeth maethu deinamig sydd nid yn unig yn cefnogi ac yn goruchwylio rhieni maeth ond hefyd yn recriwtio a darparu gwasanaethau lleoli ar draws y Gwasanaethau i Blant. Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr, byddwch chi'n cyfrannu at garfan a gwasanaeth sydd wedi'i ymroi i wneud effaith gadarnhaol ar fywydau plant a theuluoedd.
Rydyn ni'n chwilio am unigolion sy'n meddu ar ddealltwriaeth fanwl o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a deddfwriaeth berthnasol arall. Mae'n hanfodol parhau i fod yn gyfredol gyda phroblemau sy'n dod i'r amlwg, yn yr un modd â bod â phrofiad neu ddiddordeb dwys mewn gweithio yn y maes yma.
Mae datblygiad proffesiynol yn ffocws allweddol i ni, a byddwch chi'n elwa ar ein Canolfan Addysg a Datblygu benodol, sy'n cefnogi ymarferwyr ar bob lefel. Mae'r ymrwymiad yma i ddatblygiad proffesiynol parhaus yn sicrhau y gallwch gynnal a gwella eich sgiliau trwy gydol eich gyrfa.
Trwy ymuno â Maethu Cymru RhCT, byddwch chi'n rhan o garfan sydd wedi'i ymrwymo i wneud effaith bositif a chefnogi'i gilydd bob cam o'r ffordd. Os ydych chi'n frwdfrydig am ofal cymdeithasol ac yn barod i gymryd rôl ystyrlon, rydyn ni'n eich annog i wneud cais a dod yn rhan hanfodol o'n cymuned.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â Gemma Higgon trwy e-bostio (
Gemma.L.Higgon-Young@rctcbc.gov.uk).
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.