Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 2530
Sefydliad:
Llesiant Delta
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
30 Tachwedd 2026
Lleoliad:
Caerfyrddin
Gradd:
Gradd J
Cyflog:
£42,839 - £47,181
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£22.20 - £24.46
Oriau Contract:
37 Awr
Dewch i ymuno â'n tîm Mae gennym gyfle cyffrous i Reolwr Prosiect profiadol â chymhelliant cryf arwain y gwaith o ddarparu ein gwasanaeth Delta Direct newydd - cynnig llesiant ac annibyniaeth arloesol sy'n helpu pobl i fyw'n ddiogel ac yn hyderus yn eu cartrefi eu hunain.
Mae Llesiant Delta yn gwmni masnachu awdurdod lleol sydd wedi ennill gwobrau ac yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC), gan ddefnyddio technoleg arloesol i ddarparu amrywiaeth o atebion yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gan gefnogi pobl hŷn ac agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol.
Mae'r cwmni wedi tyfu'n sylweddol ers ei sefydlu yn 2018 ac mae'n darparu monitro galwadau dwyieithog a gwasanaethau cymorth eraill gan gynnwys monitro larymau teleofal a theleiechyd, gosod TEC, ymateb lles cymunedol, monitro gweithio ar eich pen eich hun ac atgyweiriadau tai y tu allan i oriau i awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cymdeithasau tai, lleoliadau addysgol, cwmnïau preifat a thrigolion.
Byddwch yn cydlynu gweithrediad llawn Delta Direct, gan sicrhau bod llwybrau gweithredol, digidol, marchnata a chwsmeriaid yn cyd-fynd i ddarparu gwasanaeth di-dor. Byddwch hefyd yn rheolwr llinell i ddau Swyddog Twf ac Ymgysylltu, gan lywio eu gwaith i gyflawni targedau ymgysylltu â'r gymuned a chysylltu â chwsmeriaid.
Rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n drefnus yn rhagweithiol ac yn hyderus wrth reoli nifer o ffrydiau gwaith a rhanddeiliaid.
Os oes gennych gefndir cryf mewn darparu prosiectau, rheoli pobl a gweithio mewn partneriaeth - ac rydych chi eisiau bod yn rhan o wasanaeth blaengar sy'n gwella bywydau - byddem ni'n dwlu clywed gennych.
Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal ar 21/11/2025.
I gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Carla Dix, Pennaeth Datblygu Busnes a Phartneriaethau drwy e-bostio Carla.Dix@deltawellbeing.org.uk
Disgrifiad Swydd:
035406.pdf - 410KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
21 Tachwedd 2025
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 18/11/2025, 12:00
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.