Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Rheolwr Dirpwy Cartref Gofal
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Rheolwr Prosiect 1x cyfnod penodol (12 mis) 37 awr yr wythnos
Addas ar gyfer cyfle secondiad i ymgeiswyr mewnol Grade 11 £44711 - £47,754
Mewnol yn Unig
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm prysur a chyfeillgar o fewn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol dros dro fel Rheolwr Prosiect. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar adolygu a chyflawni prosiectau allweddol o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi gwelliannau mewn gwasanaethau i bobl yn Wrecsam. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys: • Ymgymryd â gweithgaredd ymgynghori â rhanddeiliaid ledled Wrecsam • Defnyddio egwyddorion rheoli prosiectau a newid i fonitro allbynnau o fewn amserlen a chyllideb benodol. • Cysylltu â, ac adrodd i, Uwch Reolwyr ar bob agwedd ar y prosiect gan ddefnyddio ystod o offer gwybodaeth reoli ac adrodd
Rydym yn chwilio am berson sydd â phrofiad o reoli prosiectau, sydd â chymhelliant ac sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Bydd angen i chi allu teithio ledled Wrecsam i ymgymryd â gweithgaredd ymgynghori a gallu gweithio o fewn Adeiladau'r Goron (Wrecsam) neu leoliadau eraill, gan gynnwys gweithio o bell gartref.
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs am y rôl, cysylltwch â Louise Davies-Rae, Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Cofrestredig, louise.davies-rae@wrexham.gov.uk; 01978 292982
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn caeleu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg