Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1768
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran:
Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Ceredigion, Powis, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd M
Cyflog:
£53,829 - £59,054
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£27.90 - £30.61
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o hysbysebu ar gyfer swydd Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol. Sir Gaerfyrddin yw'r Awdurdod Lleol sy'n cynnal y cydweithredfa mabwysiadu ranbarthol (RAC) ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru (sy'n cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys).
Mae hon yn swydd arweinyddiaeth strategol allweddol sy'n gyfrifol am reoli cydweithredfa mabwysiadu ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ac am ddarparu gwasanaethau mabwysiadu effeithiol yn ddiogel ledled y rhanbarth.
Bydd deiliad y swydd yn gwneud penderfyniadau allweddol a dylai arfer ymrwymiad y Cyngor i wella bywydau a dyfodol plant a phobl ifanc. Gan weithio o fewn model ymarfer systemig sy'n ymwybodol o drawma ac ymlyniad, byddwch yn sicrhau bod y dull hwn sy'n seiliedig ar berthynas yn gofalu bod plant yn cael lle blaenllaw yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud, gan ganolbwyntio ar y teulu cyfan.
Byddwch yn gweithio'n agos ochr yn ochr â'n partneriaid, gan wella cysylltiadau rhwng gwasanaethau cymunedol, addysg, iechyd a gwaith cymdeithasol statudol i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio gyda'n gilydd a darparu gwasanaethau gwell a mwy di-dor.
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno ag awdurdod cefnogol a blaengar sy'n gwerthfawrogi'r profiad a'r sgiliau sydd gennych chi. Byddwch yn rhan o sefydliad ehangach sy'n ymfalchïo mewn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd i gadw plant yn ddiogel a theuluoedd gyda'i gilydd.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod ganddynt brofiad ar lefel strategol a gweithredol a rhaid iddynt feddu ar gymhwyster gwaith cymdeithasol proffesiynol, bod â phrofiad ôl-gymhwyso helaeth o fewn Gwasanaethau Plant a bod wedi'u cofrestru fel 'Gweithiwr Cymdeithasol' gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Rydym yn cydnabod bod gwaith cymdeithasol yn faes proffesiynol a heriol yn bersonol ac yn gofyn am gryn dipyn o sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd. Byddwch yn cael eich cefnogi bob cam o'r ffordd i gynnal eich sgiliau a'ch datblygiad proffesiynol parhaus.
Os ydych chi'n teimlo y gallwch chi gynnig eich profiad, eich syniadau, a'ch sgiliau arwain i gefnogi ein gweledigaeth, i gadw plant yn ddiogel a theuluoedd gyda'i gilydd, rydyn ni am glywed gennych chi.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Jan Coles jcoles@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
035052 .pdf - 214KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 11/06/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.