Oriau gwaith: 2 x 37 oriau
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Nelson / Caerffili
Tîm: Darpariaeth a Chymorth Lleoliadau
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £47,181 - £50,269 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Rydyn ni’n ehangu ein darpariaeth breswyl ni ac yn chwilio am Reolwr Tîm ymroddedig i arwain un o'n cartrefi plant rheoledig ni.
Mae hon yn rôl hanfodol, gan ddarparu arweinyddiaeth gref, sicrhau gofal o ansawdd uchel, a bodloni holl ofynion rheoleiddio Arolygiaeth Gofal Cymru a’r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). Byddwch chi’n goruchwylio rhedeg y cartref o ddydd i ddydd, yn cynorthwyo ac yn datblygu'r tîm staff, ac yn sicrhau bod plant yn profi diogelwch, sefydlogrwydd a pherthnasoedd ystyrlon ochr yn ochr â'n gwasanaeth preswyl Fy Nhîm Cefnogol (MyST) ni.
Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i lunio darpariaeth newydd, ysgogi rhagoriaeth ymarfer, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Gwybodaeth ymarferol ragorol am ddeddfwriaeth, canllawiau, ymchwil ac arfer dda perthnasol yng Ngwasanaethau i Blant.
- Profiad sylweddol mewn lleoliad gofal preswyl ar lefel uwch.
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y Deyrnas Unedig a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chartrefi, i gludo plant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr yn ystod yr wythnos.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Karen Williams ar 01443 864512 neu ebost:
WILLIK19@CAERPHILLY.GOV.UK Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Yn unol â rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru, rhaid i ymgeiswyr feddu ar gofrestriad dilys Gofal Cymdeithasol Cymru fel Rheolwr Gofal Plant Preswyl i ymarfer yn y rôl hon yn gyfreithlon.