Mae'r Tîm Asesu a Chymorth angen rheolwyr tîm deinamig sydd yn fodlon ac yn gallu cefnogi gweithwyr cymdeithasol i reoli gwaith achos cymorth yn effeithiol a chyfrannu at ddatblygiadau ac arloesedd y gwasanaeth.
Yn gyfnewid, gallwch ddisgwyl:
- Hawl gwyliau hael
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Gostyngiadau ac arian wrth gefn mewn siopau stryd fawr lleol
- Cyfle i brynu cynllun arian iechyd i hawlio tuag at ddeintyddol, sbectol, therapi ac ati.
- Mynediad am ddim i raglen cymorth gweithwyr cyflogedig rownd y cloc ar gyfer cyngor a chymorth
I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i chi feddu ar radd Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster gwaith cymdeithasol cyfwerth, CQSW neu DipSW gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso gyda gwybodaeth dda o'r ddeddfwriaeth bresennol.
Gan fod y tîm yn gweithio mewn ardal ddwyieithog, byddai'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn ddymunol ar gyfer y swydd uchod.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael dategeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Mark Devereux, Rheolwr Adain ( mark.devereux@conwy.gov.uk / 01492 575269)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.