I reoli staff yn y tîm Camddefnyddio Sylweddau gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth â staff o'r meysydd iechyd, y gwasanaeth prawf a'r heddlu o ran dyrannu gwaith, ansawdd gwaith, a phresenoldeb mewn cyfarfodydd tîm. Sicrhau bod diwylliant sy'n canolbwyntio ar y dinesydd a chanlyniadau yn cael ei hybu bob amser a hyrwyddo dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn bob amser drwy sicrhau bod y model Arwyddion Diogelwch a Lles yn cael ei roi ar waith yn ymarferol.
Dyletswyddau yn cynnwys:
- Sicrhau bod anghenion y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn cael eu deall yn llawn a'u diwallu wrth ddatblygu, darparu, hyrwyddo a gwella gwasanaethau.
- Sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu rheoli a'u darparu mewn ffordd gydlynol ac yn unol â pholisïau a safonau y cytunwyd arnynt.
- Cynorthwyo'r Rheolwyr Corfforaethol a'r Swyddogion Arweiniol Corfforaethol i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau'n cael eu diweddaru i adlewyrchu deddfwriaeth gyfredol ac arfer gorau.
- Monitro, gwerthuso ac adrodd yn rheolaidd ar berfformiad tîm yn erbyn cynlluniau gwasanaeth statudol ac anstatudol, cynlluniau busnes a dangosyddion perfformiad.
- Sicrhau bod staff yn cael eu goruchwylio'n rheolaidd, yn ôl yr angen, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.
- Cynorthwyo i nodi, caffael a defnyddio adnoddau ar gyfer y tîm a'r gwasanaeth i gyflawni ei amcanion.
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonAm fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Simon Thomas Corporate Manager of Mental Wellbeing & Substance Misuse Services Tel: 07976134131
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnaublaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy