Rydym yn frwd dros weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau plant/ pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn a'u galluogi i 'fyw'r bywyd gorau posibl' drwy ddarparu profiad cefnogol a llawn iddynt sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion unigol a'r hyn sy'n bwysig iddynt.
Cyfrifoldebau'r Rheolwr Tîm fydd arwain y Tîm Cefnogi Cyflogaeth Anabledd er mwyn sicrhau fod pobl gydag anableddau 14+ oed yn derbyn profiad mentora cyflogaeth o ansawdd uchel ar eu siwrnai i gyflogaeth â thâl. Byddent yn gwneud hyn wrth sicrhau rheolaeth o fodel busnes llwyddiannus sy'n darparu profiad cadarnhaol i gwsmeriaid a'r cyhoedd. Bydd y busnes yn cynnwys lleoliadau manwerthu, gwasanaethau awyr agored a garddwriaethol, tyfu a chynnyrch cartref, yn ogystal â gwerthiant digidol mewnol a chyfleuster marchnata.
Bydd y Rheolwr Tîm hefyd yn goruchwylio'r Cydlynydd Llwybr Cyflogaeth.
Bydd y Rheolwr Tîm yn gyfrifol am ddatblygu cynllun busnes ar gyfer y gwasanaeth, adolygu cynnydd yn erbyn y cynllun a gwneud newidiadau yn unol â'r defnyddiwr gwasanaeth, anghenion y cwsmeriaid a thueddiadau'r farchnad. Byddent yn gyfrifol am reoli'r gyllideb ac ar gyfer unrhyw gyllid grant ychwanegol a ddyrannir i'r gwasanaeth.
Bydd y Rheolwr Tîm yn gyfrifol am ddatblygu cynllun busnes ar gyfer y gwasanaeth, adolygu cynnydd yn erbyn y cynllun a gwneud newidiadau yn unol ag anghenion y cwsmeriaid a thueddiadau'r farchnad.
Bydd disgwyl i chi: - Darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer gwasanaeth cyflogaeth a gefnogir gan Anabledd Conwy.
- Darparu cyfrifoldeb rheolaeth atebol i staff dynodedig
- Hyrwyddo Gwasanaethau Cefnogi Cyflogaeth Conwy, gan weithio ar y cyd â marchnata i ddatblygu'r brand, hyrwyddo'r genhadaeth a gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth.
- Ymgysylltu â thimoedd staff i ddatblygu'r gwasanaeth
- Darparu goruchwyliaeth weithredol o dimoedd staff gwasgaredig
- Datblygu, gweithredu ac adolygu cynlluniau busnes ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir.
- Cydbwyso gofynion cystadleuol o redeg busnes llwyddiannus sy'n wynebu'r cyhoedd gyda gwasanaethau cefnogi cyflogaeth ar gyfer pobl gydag anableddau
- Parhau i geisio cyfleoedd i ddatblygu a fydd yn cefnogi darpariaeth ein gweledigaeth a chenhadaeth gwasanaeth.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano gennych chi: - Safon dda o addysg, wedi cael addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth
- Bod wedi cael hyfforddiant perthnasol gan BASE (Cymdeithas Cyflogaeth â Chymorth Prydain)
- Profiad yn y sector manwerthu sy'n berthnasol i fusnesau bach gwasanaeth Anableddau Conwy
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl gydag anableddau dysgu a chorfforol i gael mynediad at gyflogaeth â thâl
- Dealltwriaeth o'r cyd-destun cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol e.e. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Deddf Galluedd Meddyliol
- Sgiliau rheoli a chynllunio cyllideb
- Sgiliau trefnu ac ymchwilio rhagorol
- Profiad amlwg o weithio mewn amgylchedd marchnata a chyfathrebu yn canolbwyntio ar brosiectau
- Profiad blaenorol o reoli pobl o ran pob agwedd ar berfformiad a phresenoldeb.
- Profiad o ddefnyddio mewnbwn a data cynulleidfaoedd yn llwyddiannus er mwyn llywio strategaethau a chynlluniau
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Fiona Dennison, Section Manager ( fiona.dennsion@conwy.gov.uk / 01492 577772)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.