Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 2495
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd K
Cyflog:
£47,181 - £51,356
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£24.46 - £26.62
Oriau Contract:
37 Awr
Dewch i ymuno â'n tîm Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am Reolwr Tîm Cynorthwyol angerddol a deinamig ar gyfer Gwaith Cymdeithasol, i gefnogi oedolion hŷn, oedolion ag anableddau corfforol, oedolion â dementia a theuluoedd/gofalwyr yr unigolion hyn.
Mae gennym swydd yn mynd fel Rheolwr Tîm Cynorthwyol Gwaith Cymdeithasol yn ein Tîm Ysbyty - a fydd yn cefnogi Ysbyty Glangwili, Ysbyty Prince Phillip, Ysbyty Dyffryn Aman, ac Ysbyty Llanymddyfri. Mae hwn yn dîm gwaith cymdeithasol sydd wedi'i hen sefydlu ac sy'n cefnogi trigolion Sir Gaerfyrddin. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno ag awdurdod cefnogol a blaengar sy'n gwerthfawrogi'r profiad a'r sgiliau sydd gennych chi.
Byddwch yn rhan o dîm cefnogol, sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol o safon a gwasanaeth ehangach gan weithio gyda'ch gilydd i gefnogi oedolion a'u trefniadau cynllunio rhyddhau yn y modd gorau.
I fod yn llwyddiannus, bydd yn rhaid eich bod yn frwd dros hybu arfer gorau, yn gwybod beth yw arfer da, ac yn brofiadol o ran goruchwylio cyflawni canlyniadau rhagorol ac ymyriadau o safon i'r grŵp dinasyddion a'u teuluoedd wrth y drws blaen. Dylai ymgeiswyr weithio'n dda mewn amgylchedd gwaith heriol a gallu rheoli galwadau sy'n groes i'w gilydd, gan weithio mewn partneriaeth â dinasyddion, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill. Byddwch yn rheoli gweithwyr cymdeithasol, yn gyfrifol am lwyth achosion cymhleth, ac yn ymarfer mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ganlyniadau. Hefyd byddwch yn goruchwylio, arfarnu, rheoli gwyliau/salwch ac yn ymgymryd â thasgau rheoli cysylltiedig eraill. Yn ogystal, lle bo'r angen, byddwch yn mynychu cyfarfodydd rheoli ac yn dirprwyo ar ran rheolwr y tîm.
Byddwch yn meddu ar gymhwyster gwaith cymdeithasol, yn gyfarwydd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac yn meddu ar wybodaeth a phrofiad am ddeddfwriaeth gwaith cymdeithasol berthnasol a rhwymedigaethau statudol, eich rôl a'ch cyfrifoldebau.
Yn gyfnewid am hyn, gallwch ddisgwyl bod yn rhan o Awdurdod sy'n ddyfeisgar ac yn wydn, sy'n ymrwymedig i wella ac yn awyddus i groesawu syniadau newydd. Gan adeiladu ar gryfderau a gydnabyddir yn eang, byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm galluog ac ymroddedig.
Gallwn gynnig i chi:
- Ymsefydlu cynhwysfawr
- Goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd
- Gweithio ystwyth/hybrid
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol ac 8 o wyliau banc
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e cynllun beicio i'r gwaith
- Ad-dalu ffioedd cofrestru gwaith cymdeithasol.
- Hyfforddiant a chymorth helaeth
- Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial
Mae'n hanfodol eich bod yn gallu teithio ledled y Sir.
Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Rheolwr Tîm Paul Quarry - 01267 246954
Disgrifiad Swydd:
030653.pdf - 265KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 19/11/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.