Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Rheolwr Dirpwy Cartref Gofal
Disgrifiad o'r swydd
Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Rydym yn recriwtio ar gyfer y rôl Rheolwr Tîm ar gyfer yr Adran Anableddau 25+ am gyfnod o 12 mis (hyd at Ionawr 2027).
Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol ac yn frwdfrydig am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ag anableddau yng Nghonwy.
Mae'r Gwasanaeth Anableddau yn faes gwasanaeth mawr a chymhleth sy'n darparu Gwaith Cymdeithasol, Therapi Galwedigaethol, Gwasanaethau Synhwyraidd Arbenigol, nyrsio a seicoleg anabledd dysgu ar y cyd, ynghyd ag ystod o wasanaethau gofal uniongyrchol rheoleiddiedig ac anghofrestredig i blant ac oedolion ag anableddau yng Nghonwy. Mae'n wasanaeth cyffrous a blaengar lle mae staff a rheolwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod y bobl a'n cefnogwn yn gallu byw mor annibynnol â phosibl ac yn cyflawni'r pethau y maent am eu gwneud yn eu bywydau. Anogir pob aelod o'r tîm i feddwl am sut y gallwn gefnogi pobl yn dda ac i chwilio am atebion yn hytrach na gweld rhwystrau.
Mae Rheolwr y Tîm Anableddau 25+ yn gyfrifol am reolaeth weithredol o ddydd i ddydd a goruchwyliaeth broffesiynol staff o fewn y tîm 25+. Mae'r rôl yn sicrhau bod gwasanaethau diogel, effeithiol a pherson ganolog yn cael eu darparu i oedolion dros 25 oed, gyda ffocws cryf ar gynnydd, annibyniaeth ac ymwrthedd. Mae'r Rheolwr Tîm yn cefnogi gweithrediad blaenoriaethau'r gwasanaeth, yn cyfrannu at ddatblygu'r gwasanaeth, yn sicrhau arfer da, ac yn rheoli perfformiad a risg, gan weithio gyda chydweithwyr ar draws y Gwasanaeth Anableddau integredig. Gall y rôl hefyd ddarparu clawr ar gyfer Rheolwyr Tîm eraill fel bo'r angen.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Einir Hinson, Rheolwr Adain Tim Anableddau dros 25 ( Einir.hinson1@conwy.gov.uk / 01492 576235)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr