Torfaen County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Lleoliad
Torfaen
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Math o gontract
Dros dro
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Cogydd
Disgrifiad o'r swydd
Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Mae Cyngor Sir Conwy yn bwriadu recriwtio Rheolwr Tîm i'r Tîm Adnoddau sy'n cefnogi Oedolion a Phlant sy'n dioddef anawsterau a all arwain at chwalu teulu / lleoliad.
Bydd yn ofynnol i chi gadeirio Cyfarfodydd Panel Aml-asiantaethol Ymyl Gofal wythnosol, a chysylltu ag asiantaethau i sicrhau bod cymorth dwys yn cael ei ddarparu i deuluoedd mewn Argyfwng.
Disgwylir i chi reoli a goruchwylio tîm amlddisgyblaeth a chymryd cyfrifoldeb am ddyrannu gwaith i aelodau'r tîm. Disgwylir i chi hwyluso sesiynau dysgu myfyriol gyda staff. Yn ogystal, mae'r rôl hefyd yn cynnwys swyddogaeth sicrhau a monitro ansawdd.
Disgwylir i chi ddod yn aelod o'r tîm rheoli Pobl Ddiamddiffyn.
Bydd hwn yn gyfle delfrydol i arwain tîm newydd i ddatblygu sgiliau wrth ymateb i anghenion amrywiol teuluoedd mewn argyfwng.
Disgwylir i chi weithio'n agos gyda'r Tîm Ymyrraeth Teulu a chyda'r rheolwyr tîm cyswllt a sesiynol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno ag awdurdod blaenllaw yng Nghymru sy'n cael ei gydnabod am arfer da a gwasanaethau arloesol.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Cathy Mackenzie, Rheolwr adran dros dro Adain Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn 01492 575332
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr