Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal plant
Gweithle
Cyfleusterau Crèche a Meithrinfeydd Dydd
Rôl
Manager
Disgrifiad o'r swydd
Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Lleoliad gwaith: Canolfan Deulu Llanrwst
Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i deuluoedd yn ein cymuned? A ydych chi eisiau cefnogi teuluoedd i gael mynediad at y cymorth cywir ar yr amser iawn, yn y ffordd gywir?
Mae'r rôl hon yn rhoi'r cyfle i reoli'r tîm sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Llanrwst (Canolfan Deulu), sy'n gwasanaethu De y sir.
Gan weithio'n agos gydag asiantaethau eraill byddwch yn datblygu ac yn cynnal rhwydweithiau cymorth y gall teuluoedd ddibynnu arnynt; darparu cefnogaeth cynnar ac atal teuluoedd rhag wynebu anawsterau neu argyfwng. Wedi'ch lleoli yn y gymuned leol, byddwch yn cefnogi tîm brwdfrydig a chyfeillgar i ddarparu grwpiau, cyrsiau a chefnogaeth un i un i deuluoedd.
I gael gwybod mwy am ein timoedd a'n gwasanaethau, edrychwch ar ein tudalennau gwe - www.conwy.gov.uk/bywydteuluol
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Kelly Jones, Rheolwr Adain Cymorth i Deuluoedd De a Dwyrain Conwy ( kelly.jones@conwy.gov.uk / 01492 574742)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr