Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Rheolwr Tîm Cynorthwyol ar gyfer Atal
G09 £30,984 - £33,486 y flwyddyn
Dros dro tan 31/03/2026
Mae Gwasanaethau Plant Wrecsam yn ceisio recriwtio Rheolwr Tîm Cynorthwyol brwdfrydig, rhagweithiol a hynod broffesiynol i ymuno â'r Tîm Atal a Datblygu Gwasanaeth i gefnogi datblygiad a darpariaeth Gwasanaethau Atal a Chymorth Cynnar i blant a theuluoedd.
Rydym yn awyddus i glywed gan unigolion sy'n llawn cymhelliant, yn angerddol am wneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd ac sydd â phrofiad yng ngwasanaethau plant a theuluoedd. Dyma amser cyffrous i ymuno â Chyngor Wrecsam gyda lansiad diweddar y Fframwaith Atal a Chymorth Cynnar, sy'n gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer y dyfodol yn Wrecsam, datblygiad arloesol y Porth Lles newydd ar-lein ac agoriad y Canolbwynt Lles yn Adeiladau'r Goron sydd ar y gorwel.
Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn drefnus iawn, gyda dealltwriaeth dda o gyfarwyddyd a deddfwriaeth allweddol yng Nghymru yn ymwneud â phlant a theuluoedd, profiad o weithio gyda grantiau a gyda'r sgiliau a'r ddealltwriaeth i'w galluogi i gefnogi staff a'u helpu i gyrraedd lefelau perfformio uchel. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'm Atal a Datblygu Gwasanaeth, tîm mawr, prysur iawn, sefydlog, llwyddiannus iawn sy'n cwmpasu ystod eang o wahanol feysydd gwasanaeth, gan gynnwys comisiynu, rheoli rhaglenni a phrosiectau, cyllid grant, cymorth i fusnesau yn ogystal â gwaith rheng flaen gyda theuluoedd a darparwyr eraill. Mae'r holl staff yn gweithio o adref yn ogystal ag yn y swyddfa, ac mae lles staff yn flaenoriaeth uchel i bawb.
Dylai ymgeiswyr ddefnyddio'r cyfleoedd ar y ffurflen gais i egluro'n glir sut maent yn cyrraedd y gofynion yn y manylion am yr unigolyn ar gyfer y rôl.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.