Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Rheolwr Tîm Cynorthwyol
Lleoliad - Gofal Cymdeithasol Plant, Stryt y Lampint, Wrecsam
G11 £44,711 - £47,754
37 awr yr wythnos
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn chwilio am arweinydd a Rheolwr Tîm Cynorthwyol profiadol ar gyfer ei wasanaeth maethu.
Rydym am i chi helpu i ddarparu ein gweledigaeth ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn Wrecsam a'u gofalwyr maeth.
Rydym am i Wrecsam fod yn lle sy'n rhoi cyfle i blant feithrin perthnasoedd gydag un neu fwy o oedolion sy'n gofalu amdanynt drwy gydol eu plentyndod a thu hwnt, ac sy'n eiriolwyr rhagorol dros y plant yn eu gofal.
Rydym am i blant sy'n derbyn gofal deimlo'n ddiogel a bod rhywun yn eu caru ac am iddynt dderbyn yr addysg orau bosibl i'w paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn.
I gwrdd â'r amcanion hyn rydym yn chwilio am rywun a fydd yn gallu sicrhau gwasanaethau o'r ansawdd uchaf sy'n rhagori ar y safonau cenedlaethol. Bydd yn ofynnol i chi weithio ar draws y gwasanaeth a'r cyngor a gyda phartneriaid i dyfu'r gwasanaeth mewn marchnad gynyddol gystadleuol.
Bydd yn rhaid i chi fod yn brofiadol ym maes maethu a bod â syniadau arloesol a fydd yn cefnogi eich ymarferwyr i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i ofalwyr maeth Wrecsam mewn cydnabyddiaeth o'r gwaith rhagorol y maent yn ei wneud.
Os oes gennych ymholiadau pellach am y swydd cysylltwch â
Sarah Jones, Sarah2.jones@wrexham.gov.uk
Mae angen gwiriad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.