Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
G11 - £44,711 - £47,754
Rydym yn dymuno penodi Gweithiwr Cymdeithasol hynod gymhellol gyda gwybodaeth a phrofiad mewn gwaith cymdeithasol Pobl HÅ•n sy'n ceisio cyfleoedd i arwain a mentora grŵp o Weithwyr Cymdeithasol ac Aseswyr Gofal Cymdeithasol o fewn ein Tîm Pobl HÅ•n. Byddwch yn un o bum Rheolwr Tîm Cynorthwyol a fydd, yn ogystal â chynnig cymorth goruchwylio uniongyrchol i'w goruchwylwyr a nodwyd, hefyd yn ymgymryd â rôl rheoli dyletswydd ar sail rota.
Byddwch yn datblygu ymarfer a pherfformiad gweithiwr cymdeithasol o ansawdd trwy reolaeth weithredol ddyddiol y tîm a chefnogi'r Rheolwr Tîm i reoli'r llwyth gwaith ac achosion. Bydd gennych sgiliau/gwybodaeth rheoli pobl yn effeithiol, yn cynnwys ymgysylltu â gweithwyr a chymryd agwedd o hyfforddi a myfyrio at oruchwyliaeth i alluogi eraill i wella eu harfer, rheoli risgiau a hybu cyflawni canlyniad yn unol â pholisi adrannol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Mae'r tîm Pobl HÅ•n yn rhan o nifer o brosiectau i wella gwasanaethau i'n dinasyddion, felly mae'n gyfnod gwych i ymuno â'r tîm a chyfrannu at ein datblygiad parhaus. Mae dealltwriaeth o weithio'n amlddisgyblaethol a gweithio gydag unigolion, eu teuluoedd a gofalwyr di-dâl yn hanfodol.
Os oes gennych chi ymholiadau pellach am y swydd, cysylltwch ag Amanda Squire, Rheolwr Tîm ar 07802 378674 neu e-bost Amanda.Squire@wrexham.gov.uk Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.