A ydych chi'n weithiwr cymdeithasol cymwys, angerddol sydd â chymhelliant i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant? Mae Cyngor Sir Penfro yn chwilio am Reolwr Tîm Cynorthwyol deinamig i ymuno â'n Tîm Lleoliadau Teulu - tîm Gwasanaethau Plant cydweithredol a blaengar sy'n ymroddedig i ddiogelu a chefnogi teuluoedd ar draws Sir Benfro.
Fel Rheolwr Tîm Cynorthwyol byddwch yn gwneud y canlynol:
- Hyrwyddo datblygu gwasanaethau sy'n hybu sefydlogrwydd a chymorth i blant sy'n methu byw gyda theuluoedd geni.
- Goruchwylio'r gwaith parhaus o asesu a chefnogi gofalwyr maeth prif ffrwd a gofalwyr maeth sy'n berthnasau, ynghyd â darparwyr llety â chymorth a llys-rieni sy'n mabwysiadu.
- Arwain gwelliannau i wasanaethau gan gynnwys hyfforddiant, grwpiau cymorth, a mynediad at adnoddau.
- Goruchwylio gweithwyr cymdeithasol, myfyrwyr gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymorth gan sicrhau safonau uchel o ddatblygiad proffesiynol.
- Cynrychioli'r Tîm Lleoliadau Teulu mewn cynadleddau amddiffyn plant, cyfarfodydd cynllunio cyfreithiol ac achosion llys.
- Mae'r swydd hon hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb goruchwylio, cymryd rhan a rheoli'r Panel Maethu, a pharatoi ar gyfer arolygiadau AGGCC.
Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, byddwch yn meddu ar gymwysterau perthnasol, yn dangos eich gwybodaeth am ddeddfwriaeth gofal plant a maethu ac yn meddu ar brofiad diamheuol o weithio ym maes lleoliadau teulu. Byddwch hefyd yn meddu ar brofiad o reoli prosiectau a'r gallu i weithio'n hyblyg o dan bwysau.
Mae sgiliau TG a chyfathrebu, a thrwydded yrru ddilys yn y DU yn hanfodol.
Bydd ymuno â'n tîm yn Sir Benfro yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi ddod â syniadau newydd, datblygu'n broffesiynol, a chyfrannu'n uniongyrchol at y gwasanaeth i hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, myfyrio, a dysgu.
Gyda'i golygfeydd godidog, ffordd o fyw arfordirol ac amrywiaeth o weithgareddau hamdden, mae gan Sir Benfro a ninnau lawer i'w gynnig. Yn ogystal â thîm rheoli cefnogol, dim ond rhagflas yw'r canlynol o'r ystod o fuddion y gallwch fanteisio arnynt wrth ymuno âm Cyngor Sir Penfro:
- Gwyliau blynyddol hael o hyd at 31 o ddiwrnodau
- Aelodaeth o gynllun pensiwn â buddion diffiniedig ar sail 'cyfartaledd cyflog gyrfa' llywodraeth leol
- Opsiynau ar gyfer gweithio hyblyg a gweithio ystwyth
- Amrediad eang o adnoddau i gefnogi'ch iechyd a llesiant, gan gynnwys gwasanaeth iechyd galwedigaethol proffesiynol mewnol a mynediad at wasanaethau cwnsela
- Cynllun tâl mamolaeth a thadolaeth alwedigaethol hael, yn ogystal â budd-daliadau statudol
- Mynediad at ddisgowntiau i weithwyr ar amrediad o nwyddau, gwasanaethau ac atyniadau, gan gynnwys canolfannau hamdden
- Cynlluniau aberthu cyflog, ceir a beicio
- Pecyn adleoli hael o hyd at £8,000 - a allai, er enghraifft, gynnwys rhent yn lle bwriad i brynu tŷ, ffioedd symud tŷ a storio, a ffioedd cyfreithiol / trefnu morgais ar gyfer prynu tŷ
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (Gorchymyn Eithriadau) 1975 ac felly bydd gofyn i'r ymgeisydd gyflwyno cais datgelu i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) er mwyn iddo gynnal gwiriadau am unrhyw droseddau blaenorol.
Cofrestru Proffesiynol: Bydd yn ofynnol bod ymgeiswyr llwyddiannus wedi'u cofrestru fel gweithwyr cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru cyn dechrau yn eu swydd a'u bod yn gallu darparu tystiolaeth o hyn.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.Gwiriadau CyflogaethMae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.DiogeluMae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol - Cysylltwch âm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.