Y Tîm Un Pwynt Mynediad plant yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr adran gan dderbyn ceisiadau am wybodaeth, a rhoi cyngor a chymorth i gefnogi plant a theuluoedd ac ymchwilio i bryderon diogelu. Tîm aml asiantaeth yw Un Pwynt Mynediad sydd yn dod â gweithwyr allweddol ynghyd er mwyn rhannu gwybodaeth yn gynnar i gefnogi teuluoedd ac i ddiogelu plant. Caiff hyn ei gyflawni trwy gasglu gwybodaeth gan asiantaethau gwahanol er mwyn dylanwadu ar ymyraethau i gyflawni'r canlyniadau gorau i blant.
Mae Gweithwyr Cymdeithasol a Rheolwyr Un Pwynt Mynediad angen sgiliau cyfathrebu ardderchog, profiad perthnasol, yn ogystal â chymhelliant ac angerdd i gefnogi teuluoedd a gwella canlyniadau i blant. Fe fydd disgwyl i chi ymateb i anghenion plant a'u teuluoedd o fewn canllawiau, polisïau a safonau statudol, gan sicrhau fod eu diogelwch a'u lles yn hollbwysig.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Kate Brooks neu Einir Davies, Rheolwyr Tîm ar 01978 292039 neu e-bostiwch kate.brooks@wrexham.gov.uk neu Einir.davies@wrexham.gov.uk.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
English ... (.doc) (145kb) , Welsh Jo... (.doc) (136kb)
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr