Rheolwr Tîm (Iechyd Meddwl) Swydd-ddisgrifiad Mae dwy swydd ar gael: 1x De Powys
1x Gogledd Powys
Mae dwy swydd ar gael, swydd yng Ngogledd Powys a swydd yn Ne Powys, byddwch yn benodol am ba swydd yr hoffech ymgeisio amdani ar eich ffurflen gais. Am y rôl: Mae rôl y Rheolwr Tîm Iechyd Meddwl yn cynnwys darparu arweinyddiaeth glir a rheoli gweithwyr cymdeithasol, Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) a gweithwyr cymorth. Mae'r ffocws ar gefnogi unigolion i fod yn annibynnol drwy feithrin ymagwedd gryfder-ganolog. Bydd y rheolwr yn goruchwylio perfformiad, gan sicrhau bod arferion gorau yn cael eu dilyn, ac yn cydweithredu ag asiantaethau partner i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl o ansawdd ym Mhowys. Amdanoch chi: • Tystiolaeth o brofiad mewn amgylchedd amlasiantaethol / amlddisgyblaethol • Ymrwymiad at ddatblygu ymafer a gwasnaethau • Gallu goruchwylio achosion cymhleth ac o risg uchel • Arweinyddiaeth gref a sgiliau rheoli • Gallu rheoli argyfwng yn effeithiol • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol Beth fyddwch chi'n ei wneud: • Darparu arweinyddiaeth glir, rheolaeth a chyfeiriad i'r tîm • Rheoli perfformiad a sichrau cadw at egwyddorion sy'n seiliedig ar gryfderau • Cefnogi'r Uwch Dîm Arwain i fodelu ymarfer o ansawdd uchel • Meithrin diwylliant o ddysgu a gwelliant parhaus • Adeiladu a chynnal cydberthnasau gydag asiantaethau partner Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl cysylltwch: recruitment@powys.gov.uk
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr